Skip page header and navigation

Kirsty Edwards

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Rheolwr y Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion (PLPS)

Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd

Ffôn: 07951 067771  
E-bost: kirsty.edwards@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Kirsty yw rheolwr y Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion (PLPS) ar gyfer de-orllewin a Chanolbarth Cymru. Drwy’r Rhaglen Ymyrraeth wedi’i Thargedu ar gyfer Ysgolion (TIPS), mae’r PLPS hefyd yn anelu at gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cau’r Bwlch ac  ymrwymiad y Llywodraeth ‘i wneud llythrennedd corfforol yn sgil datblygiadol sydd gyn bwysiced â darllen ac ysgrifennu’.

Mae’r CDDP wedi’i gysylltu â rhaglen Her Ysgolion Cymru a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion sy’n tanberfformio o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae timau PLPS  yn gweithio gyda’r 40 o Ysgolion Llwybrau at Lwyddiant, yr Ysgolion Cynradd sy’n eu bwydo, a 15 ysgol ychwanegol i greu ymyriadau pwrpasol sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol a chefnogi canlyniadau i bobl ifanc.

Cefndir

Cyn hynny, roedd Kirsty yn Rheolwr Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol ar gyfer CNPT a Phowys. Cyn hyn, roedd hi’n athrawes Addysg Gorfforol am 9 mlynedd gyda chyfrifoldebau ychwanegol am fod yn Bennaeth  Addysg Gorfforol i Ferched, Cydlynydd Ymweliadau Addysgol (EVC), Cydlynydd Ysgolion Iach a dirprwy bennaeth dros dro’r chweched dosbarth am 3 blynedd. Mae hi’n angerddol bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal ac yn cael ei addysgu drwy ddull sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r wedd gorfforol ffiseg yn brigo drwyddi draw.

 Mae ymrwymiad Kirsty i lythrennedd corfforol yn amlwg yn ei hamser hamdden ei hun gan ei bod yn gwerthfawrogi gweithgarwch corfforol yn fawr. Mae wedi cynrychioli Prydain Fawr ym  mhencampwriaethau Achub Bywyd Ewrop a’r Byd ar sawl achlysur. Ei chyraeddiadau mwyaf cofiadwy oedd ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Achub Bywyd Ewrop ym Mallorca yn 2001 a gosod 4ydd yn yr Her Ryngwladol yn Kurrawa, Awstralia yn 2005. Cynrychiolodd hi hefyd ei sir mewn pêl-rwyd a gymnasteg. Mae ei hobïau bellach yn cynnwys crosieti, marchogaeth, sgïo a syrffio.