Llun a Chyflwyniad
Cymrawd Anrhydeddus
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: +1 734 461-9795
E-bost: laura.hunt@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Mae fy Nghymrodoriaeth Anrhydeddus yn PCYDDS yn gadael i mi gydweithio â’r brifysgol drwy rannu adnoddau, cydnabyddiaeth gilyddol a phrosiectau ar y cyd o fewn Astudiaethau’r Testament Newydd.
Cefndir
Ar ôl fy BRE ac MTS yng Ngholeg Diwinyddol Michigan, cwblheais fy PhD yn PCYDDS o dan oruchwyliaeth Dr. Catrin Williams yn 2017. Cyhoeddwyd fy ngwaith wedyn gan Mohr Siebeck yn y gyfres WUNT 2, yn 2019, fel Jesus Caesar: A Roman Reading of the Johannine Trial Narrative.
Oddi ar hynny rwyf wedi gweithio fel dirprwy mewn ysgolion a phrifysgolion amrywiol yn UDA, gan gynnwys Prifysgol Spring Arbor, Coleg Diwinyddol Ashland, Prifysgol King’s, Prifysgol Multnomah, ac Athrofa Hyfforddiant Dwyrain Michigan.
Rwy’n mynychu’r SBL yn rheolaidd ac wedi cyfrannu papurau mewn adrannau gwahanol gan gynnwys Ieithyddiaeth Wybyddol mewn Deongliadau Beiblaidd, Ysgrifennu Esboniadau Gwyddonol-Gymdeithasol o’r Testament Newydd, Athrofa Ymchwil Beiblaidd, a Llenyddiaeth Ioanaidd.
Aelod O
- Cymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd
- Cymdeithas Brydeinig y Testament Newydd
- Prosiect Bayes a’r Beibl, a gynhelir gan Universität Basel, ac a gyllidir gan sefydliad cogito
- Adolygydd ar gyfer y Cylchgrawn Journal for the Study of the New Testament
Diddordebau Academaidd
Mae’r rhan fwyaf o’m haddysgu israddedig wedi canolbwyntio ar y Testament Newydd ac yn cynnwys cyrsiau megis:
- Safbwyntiau Beiblaidd (trosolwg o’r Beibl cyfan)
- Arolwg o’r Testament Newydd
- Llythyrau Paul
- Ioan a’r Cyd-destun Iddewig
Mae fy ngwaith addysgu ar lefel y coleg diwinyddol wedi canolbwyntio’n bennaf ar addysgu Groeg ac esboniadaeth gan gynnwys:
- Groeg 1, 2 & 3
- Cyrsiau Groeg Uwch gan ganolbwyntio ar Efengyl Marc, a Cholosiaid a Philemon.
- Astudiaethau o Ioan ac Iddewiaeth Gynnar
- Ymwneud â Thestunau a Chyd-destunau (esboniadaeth)
- Sylfeini Dehongli’r Beibl
Meysydd Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gyfathrebu drwy destunau, yn enwedig semioteg Umberto Eco, amlieithrwydd, trosiadau gwybyddol a hunaniaeth gymdeithasol.
Deilliodd fy PhD o fonograff yn dadlau dros berthnasedd elfennau o wyddoniadur diwylliannol yr hen Rufain i ddehongliadau o Ioan 18:28–19:22, Jesus Caesar: A Roman Reading of the Johannine Trial Narrative (2019).
Cyfrannais bennod ar hunaniaeth gymdeithasol yn 1 Pedr i’r T&T Clark Commentary on Social Identity in the New Testament (2020).
Arweiniodd cyfres o bapurau cynhadledd ar drosiadau gwybyddol at ddadansoddiad o drosiadau ar fwydo o’r fron yn y Testament Newydd ar gyfer y Journal for Interdisciplinary Biblical Studies o’r enw “Alien and Degenerate Milk: Embodiment, Structure and Viewpoint in Four Nursing Metaphors.”
Mae fy ymchwil cyfredol yn dod â damcaniaeth hunaniaeth gymdeithasol a Theorem Bayes at ei gilydd i drafod prosesau a rhybuddion i gynulleidfaoedd sy’n darllen testunau hynafol.
Arbenigedd
Mae fy arbenigedd proffesiynol yn cynnwys:
- Efengyl Ioan
- Semioteg Umberto Eco
- Damcaniaeth Hunaniaeth Gymdeithasol
- Damcaniaeth Trosiad Gwybyddol
- Amlieithrwydd Lladin-Groeg yn yr hen fyd
Cyhoeddiadau
- “Samaritan Israelites and Jews under the Shadow of Rome: Reading John 4:4–45 in Ephesus.” Religions: Exploring the Complexity of Identities and Boundaries within the New Testament World 14.8 (2023): 1149.
- “Conceptual Metaphor Theory and Interpretation.” Diegesis in Mind: Cognitive Disciplines and Ancient Narrative in Dialogue. 1 Mehefin 2023.
- “Alien and Degenerate Milk: Embodiment, Structure and Viewpoint in Four Nursing Metaphors.” Journal for Interdisciplinary Biblical Studies 4.1 (2022): 119–156.
- “Loveday C. A. Alexander: Luke-Acts in Its Ancient Literary Context.” Tudalennau 347–80 yn Luke-Acts in Modern Interpretation. Golygwyd gan Stanley E. Porter a Ron C. Fay. Grand Rapids, MI: Kregel, 2021.
- “1 Peter.” Tudalennau 527–42 yn T & T Clark Commentary on Social Identity in the New Testament. Golygwyd gan J. Brian Tucker a Aaron Kuecker. Llundain: T & T Clark, 2020.
- Jesus Caesar: A Roman Reading of the Johannine Trial Narrative. WUNT II 506. Tübingen: Mohr Siebeck, 2019.