Skip page header and navigation

Dr. Laura J. Hunt BRE, MTS, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cymrawd Anrhydeddus

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +1 734 461-9795
E-bost: laura.hunt@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae fy Nghymrodoriaeth Anrhydeddus yn PCYDDS yn gadael i mi gydweithio â’r brifysgol drwy rannu adnoddau, cydnabyddiaeth gilyddol a phrosiectau ar y cyd o fewn Astudiaethau’r Testament Newydd.

Cefndir

Ar ôl fy BRE ac MTS yng Ngholeg Diwinyddol Michigan, cwblheais fy PhD yn PCYDDS o dan oruchwyliaeth Dr. Catrin Williams yn 2017. Cyhoeddwyd fy ngwaith wedyn gan Mohr Siebeck yn y gyfres WUNT 2, yn 2019, fel Jesus Caesar: A Roman Reading of the Johannine Trial Narrative.

Oddi ar hynny rwyf wedi gweithio fel dirprwy mewn ysgolion a phrifysgolion amrywiol yn UDA, gan gynnwys Prifysgol Spring Arbor, Coleg Diwinyddol Ashland, Prifysgol King’s, Prifysgol Multnomah, ac Athrofa Hyfforddiant Dwyrain Michigan.

Rwy’n mynychu’r SBL yn rheolaidd ac wedi cyfrannu papurau mewn adrannau gwahanol gan gynnwys Ieithyddiaeth Wybyddol mewn Deongliadau Beiblaidd, Ysgrifennu Esboniadau Gwyddonol-Gymdeithasol o’r Testament Newydd, Athrofa Ymchwil Beiblaidd, a Llenyddiaeth Ioanaidd.

Aelod O

  • Cymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd
  • Cymdeithas Brydeinig y Testament Newydd
  • Prosiect Bayes a’r Beibl, a gynhelir gan Universität Basel, ac a gyllidir gan sefydliad cogito
  • Adolygydd ar gyfer y Cylchgrawn Journal for the Study of the New Testament

Diddordebau Academaidd

Mae’r rhan fwyaf o’m haddysgu israddedig wedi canolbwyntio ar y Testament Newydd ac yn cynnwys cyrsiau megis:

  • Safbwyntiau Beiblaidd (trosolwg o’r Beibl cyfan)
  • Arolwg o’r Testament Newydd
  • Llythyrau Paul
  • Ioan a’r Cyd-destun Iddewig

Mae fy ngwaith addysgu ar lefel y coleg diwinyddol wedi canolbwyntio’n bennaf ar addysgu Groeg ac esboniadaeth gan gynnwys:

  • Groeg 1, 2 & 3
  • Cyrsiau Groeg Uwch gan ganolbwyntio ar Efengyl Marc, a Cholosiaid a Philemon.
  • Astudiaethau o Ioan ac Iddewiaeth Gynnar
  • Ymwneud â Thestunau a Chyd-destunau (esboniadaeth)
  • Sylfeini Dehongli’r Beibl

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gyfathrebu drwy destunau, yn enwedig semioteg Umberto Eco, amlieithrwydd, trosiadau gwybyddol a hunaniaeth gymdeithasol.

Deilliodd fy PhD o fonograff yn dadlau dros berthnasedd elfennau o wyddoniadur diwylliannol yr hen Rufain i ddehongliadau o Ioan 18:28–19:22, Jesus Caesar: A Roman Reading of the Johannine Trial Narrative (2019).

Cyfrannais bennod ar hunaniaeth gymdeithasol yn 1 Pedr i’r T&T Clark Commentary on Social Identity in the New Testament (2020).

Arweiniodd cyfres o bapurau cynhadledd ar drosiadau gwybyddol at ddadansoddiad o drosiadau ar fwydo o’r fron yn y Testament Newydd ar gyfer y Journal for Interdisciplinary Biblical Studies o’r enw “Alien and Degenerate Milk: Embodiment, Structure and Viewpoint in Four Nursing Metaphors.”

Mae fy ymchwil cyfredol yn dod â damcaniaeth hunaniaeth gymdeithasol a Theorem Bayes at ei gilydd i drafod prosesau a rhybuddion i gynulleidfaoedd sy’n darllen testunau hynafol.

Arbenigedd

Mae fy arbenigedd proffesiynol yn cynnwys:

  • Efengyl Ioan
  • Semioteg Umberto Eco
  • Damcaniaeth Hunaniaeth Gymdeithasol
  • Damcaniaeth Trosiad Gwybyddol
  • Amlieithrwydd Lladin-Groeg yn yr hen fyd

Cyhoeddiadau