Image and intro
Rôl yn y Brifysgol
Darlithydd Addysg Gychwynnol i Athrawon
(MDaPh Mathemateg a Rhifedd).
Cefndir
Yn dilyn gradd yn astudio Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau (PCYDDS), dechreuodd Lisa Mair ei gyrfa fel cynorthwy-ydd darlledu a chyflwynydd newyddion Gorsaf Radio Ceredigion. Tra’n magu teulu, penderfynodd ei bod am fentro i fyd addysg drwy astudio cwrs TAR (Cynradd). Cyn ei phenodiad yn ddarlithydd MDaPh Mathemateg a Rhifedd yma yn 2021, bu’n athrawes gynradd am ddeuddeng mlynedd yn addysgu mewn ysgolion gwledig yng Ngheredigion. Yn ystod ei chyfnod o addygsu, astudiodd fodiwl ar gyfer Darpar Arweinwyr Canol Newydd a bu’n Ddirprwy Bennaeth Dros Dro.
Roedd yn ffodus i fanteisio ar gyfleoedd i gydweithio gydag ysgolion ffederal Cynradd ac Uwchradd wrth gynllunio, addysgu ac asesu’n drawsgwricwlaidd ar draws y chwe maes dysgu. Yn ystod ei rôl fel athrawes ag arbenigedd yng Nghyfnod Allweddol Dau, bu’n Swyddog Monitro Mathemateg yn cynrychioli ei hysgol wrth gymedroli ar y cyd gydag ysgolion Cynradd ac Uwchradd o fewn clystyrau ardal. Gwnaeth fwynhau’r profiad o fod yn Arweinydd Cynllun Ysolion Iach a Chynllun Eco-Sgolion.