Image and intro
Rôl yn y Brifysgol
Uwch Ddarlithydd mewn Anthropoleg Gymdeithasol
Cefndir
Ar hyn o bryd rwy’n uwch ddarlithydd mewn Anthropoleg ac rwyf wedi gweithio’n amser llawn yn y Drindod Dewi Sant er 2007. Deuthum yn Gyfarwyddwr Rhaglen Anthropoleg yn 2012.
Er 2014 cynaliadwyedd a chyfiawnder ecolegol sydd wedi rhychwantu fy ngwaith. Mae’r themâu hyn wedi cyfuno’n ffocws ar y ffordd y mae pobl yn cyflawni’u perthynas â’r byd materol, ac yn benodol â dŵr. Yng nghyswllt hyn rwyf wedi datblygu agwedd amgylcheddol wreiddiol ar Ffurfiau Newydd ar Fateroliaeth a elwir yn “Fateroldebau Newydd”, a’i nod yw cynnig dadansoddiad moesegol amgen i herio neilltuoldeb a rhywogaethiaeth dynol yn Oes yr Anthropocene. Rwyf bellach yn cyd-olygu cyfres ryngddisgyblaethol o lyfrau sy’n defnyddio safbwynt y Materoldebau Newydd i ddangos sut mae pobl a deunyddiau wedi’u cyd-glymu’n annatod ac yn gyd-gynhyrchiol.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi dod â myfyrwyr allan i’r maes ac rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ar nifer o fentrau. Yn 2014 derbyniais Wobr Seren Aur y Cenhedloedd Unedig am y gwaith a gyflawnais gyda myfyrwyr a grŵp o ffermwyr garddwriaethol a ddioddefai oherwydd y sychder cynyddol a achoswyd gan newid yn yr hinsawdd yn Kenya. Yn 2015 derbyniais gyllid gan Sefydliad Wenner Gren i gwblhau’r gwaith maes yn Kenya ac ar yr un pryd enillais un o’r Gwobrau Gŵn Gwyrdd Rhyngwladol (gan EAUC) oherwydd f’addysgu i ysbrydoli.
Roedd fy PhD yn archwilio diogelwch dŵr yng nghefn gwlad Kenya.
Diddordebau Academaidd
Addysgu israddedig:
- Rhyngweithio â’r Amgylchedd
- Bydoedd Pobl: Bywydau a Bywoliaethau
- Cyflwyniad i Waith Maes
- Bod yn Ddynol
- Teulu, Rhywedd a Rhywioldebau
- Materoldebau mewn Anthropoleg
- Lleoliad: Yn y Maes
- Prosiect Annibynnol
- Traethawd Hir
Addysgu ôl-raddedig:
- Dadleuon Allweddol mewn Anthropoleg
- Traethawd Hir
Goruchwylio ymchwil:
- Treftadaeth Anniriaethol yn y Maldives
- Nwyddoli dŵr yng Nghymru
Meysydd Ymchwil
Allweddeiriau: Dŵr, yn cynnwys diogelwch dŵr a materoldeb dŵr; Dwyrain Affrica, yn benodol cefn gwlad Kenya a’r Giriama; Materoldebau Newydd; Bwytadwyedd, galluedd planhigion, ethnobotaneg
Mae ffocws ar fateroldebau, gan roi sylw arbennig i ddŵr, yn sail i fy niddordebau ymchwil. Rwy’n ymgysylltu â thrafodaethau eco-feirniadol ehangach sy’n bodoli yng nghyd-destunau cynaliadwyedd, datblygu, cyfiawnder cymdeithasol a deunyddiau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd rwy’n ymwneud ag ymchwil gyda’r GIG sy’n edrych ar ofal integredig a sut mae staff yn profi ac yn delio â’r newid wrth symud i amgylcheddau gwaith newydd.
Dan y teitl ‘The Role of Water in Shaping Futures in Rural Kenya: Using a New Materialities Approach to Understand the Co-productive Correspondences Between Bodies, Culture and Water’, mae fy nhraethawd PhD yn dangos sut mae dŵr yn trefnu pobl i’r un graddau ag y mae pobl yn trefnu dŵr.
Mae fy llyfr diweddar, ‘How Water Makes us Human’ (2019), yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol i archwilio’r rôl y mae dŵr yn ei chwarae o ran llunio bywydau mewn lleoliadau gwahanol (Kenya, Sbaen a Chymru), ac mae’n dangos sut mae ymddygiadau ffisegol dŵr yn gyfrifol yn gyd-gynhyrchiol am y modd y mae bywydau dynol yn gweithredu. Mae fy ngwaith yn cymryd ysbrydoliaeth o ôl-ddyneiddiaeth, y mudiad mwy-na-dynol ac ethnograffeg rhywogaethau lluosog, ac mae wedi creu dadansoddeg berthynol newydd i ddeall sut mae pobl a’r byd materol wedi eu cyd-glymu’n ffisegol.
Rwy’n cyd-olygu’r gyfres o lyfrau Materialities in Anthropology and Archaeology (GPC) gyda Dr Louise Steel. Mae’r gyfres yn archwilio’r rôl y mae deunyddiau’n ei chwarae o ran llunio bywydau dynol.
Rwyf hefyd wedi ysgrifennu ynghylch bwytadwyedd, bwyta a phlanhigion (gweler y cyhoeddiadau). Mae’r llyfr nesaf yn y gyfres Materialities in Anthropology and Archaeology yn archwilio’r ffyrdd niferus y mae planhigion yn dylanwadu ar fywydau pobl.
Mae fy ngwaith yn Kenya wedi cael cefnogaeth Sefydliad Wenner Gren ac fe’i cydnabuwyd yn 2014 gan y Cenhedloedd Unedig gan dderbyn Gwobr Seren Aur.
Arbenigedd
Rwy’n Anthropolegydd Cymdeithasol sydd â phrofiad helaeth o waith maes ethnograffig yn Kenya, Sbaen a Chymru.
Mae dysgu gyda’r byd (nid amdano) wrth wraidd Anthropoleg. Gan gymryd ysbrydoliaeth o arsylwi ar gyfranogwyr a methodoleg ethnograffig, rwyf o’r farn bod caniatáu i fyfyrwyr f’arwain i’r un graddau ag yr wyf innau’n eu harwain nhw, yn rhyddhau casgliadau, cysylltiadau a dysgu gwreiddiol a syfrdanol i bawb.
Rwy’n rhan o Rwydwaith Educere Prifysgol Rhydychen, sy’n hyrwyddo dysgu gweithredol a dysgu drwy brofiadau fel y llwybr i rymuso graddedigion i allu ceisio atebion i broblemau byd-eang y byd sydd ohoni. Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys yn bennaf anthropolegwyr a llunwyr polisi, a’i nod yw cyfuno meysydd addysg, llesiant a chynaliadwyedd drwy archwilio dulliau amgen o ddysgu ochr yn ochr ag addysgeg frodorol amrywiol.
Yn ddiweddar gofynnwyd i mi ail-lunio dulliau cyflwyno holl ddisgyblaethau Cyfadran y Dyniaethau, a chreais system sydd â’r nod o dynnu allan botensial myfyrwyr drwy brofiadau ar yr un pryd â darparu set eang o sgiliau ar eu cyfer a luniwyd i gynyddu eu hyder i weithredu.