Skip page header and navigation

Michaela Schriek BA (Anrh), MSc, FInstLM, FRSA

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Rheolwraig Rhaglen

Cyfadran Busnes a Rheolaeth

Ffôn: 07904 787999
E-bost: m.schriek@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Darlithydd
  • Tyst AU Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymhwysol (Ymestyn Allan)
  • Cydlynydd a Gweinyddwraig Canolfan Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cefndir

Fel hyfforddwraig Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gymeradwywyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ynghyd ag asesydd QCF&VRQ cymwysedig, rwyf wedi derbyn rôl Rheolwraig Rhaglen ar gyfer y Dyst AU a drwyddedir gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn ogystal â PCYDDS.

Rwyf yn gyfathrebwraig ardderchog sy’n gymwys gyda TG ac yn datrys problemau yn greadigol. Rwy’n frwd am ddysgu, addysgu a datblygu.

Diddordebau Academaidd

Bydd y Rhaglen Ymestyn Allan mewn Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yn Hydref 2022 ac hefyd yn ail-frandio ar gyfer y rhai sy’n dod i mewn yn Hydref 2022 i:

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol – Ymestyn Allan (A.L.A.M.O.)

Yn fy rôl gyfredol fel Rheolwraig Rhaglen y Dyst AU, rwyf yn gyfrifol am gydlynu’r deunyddiau addysgu, y tiwtoriaid, a gofal bugeiliol y myfyrwyr.

Rwyf yn addysgu’n llawn amser ar y 4 modwl a addysgir o fewn y Dyst AU, sydd yn rhaglen annibynnol ond sydd hefyd yn bwydo i mewn i’r rhaglen BA Ymestyn Allan mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol. Rwyf hefyd yn cyfrannu at ddatblygu’r holl fodylau ar y BA a’r Dyst AU.

Mae’r modylau a addysgir yn y Dyst AU yn ymwneud â’r topigau canlynol:

  • Rheolaeth Cyfathrebu  
  • Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus 
  • Menter ac Intrapreneuriaeth

Bellach mae pob un o’n myfyrwyr Ymestyn Allan (ynghyd â phob myfyriwr arall yn y brifysgol) hefyd yn astudio dau fodwl hunan-gyfeiriedig Graduate Attribute ar Lefelau 4,  5 a 6.

Llunnir y modylau Priodoleddau Graddedigion i alluogi myfyrwyr i ddatblygu a chofnodi ystod o sgiliau sydd â f

Meysydd Ymchwil

Mae adolygiad pum mlynedd y Dyst AU yn ogystal â’r Rhaglen BA wedi cael eu cymeradwyo a’u dilysu gan y Brifysgol yn ddiweddar, ac rwyf bellach yn y broses o oruchwylio a chyfrannu at ailysgrifennu’r modylau cyfredol yn llwyr yn ogystal ag ychwanegu rhai newydd sbon.

Bydd y rhai newydd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr a bydd y deunyddiau addysgu yn cael eu hysgrifennu a’u rhoi drwy’r broses sicrhau ansawdd yn barod i’w darparu yn Hydref 2022 o dan frand newydd y rhaglen.

Bydd asesiadau gyda ffocws ar gyflogaeth briodol yn cael eu llunio a’u hysgrifennu i’w defnyddio gan holl diwtoriaid y Dyst AU.

Mae fy ymchwil helaeth personol dros y 12 mis diwethaf wedi fy ngalluogi i gwblhau’r 49 Dimensiwn Rheolaeth a luniwyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac rwyf wedi sicrhau Cymrodoriaeth gyda’r un corff dyfarnu.

Yn 2018 ymgymerais â phrosiect ymchwil ar gyfer thesis fy MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae’r Blwyddlyfr a ddefnyddir ar hyn o bryd ar y Dyst AU wedi bod yn brosiect ymchwil yr ymgymerwyd ag ef gyda dau gydweithiwr, ac mae wedi ei hel at ei gilydd gyda’r holl ddeunyddiau sydd ar gael o gyhoeddiadau Cyhoeddwyr Sage.

Maund, A., Schriek, M., Tinkler, P., (2017) Certificate in Higher Education Skills for the Workplace Student Yearbook, Sage.

Arbenigedd

F’angerdd mwyaf yw datblygu deunyddiau addysgu ac asesu ynghyd â hwyluso dysgu a gofal bugeiliol. Mae ymchwil a datblygu dulliau addysgu yn bwydo i mewn i’m diddordeb personol mewn seicoleg gadarnhaol a’i defnydd fel arf i ddatblygu myfyrwyr aeddfed.