Llun a Chyflwyniad

Rôl yn y Brifysgol
Fy rôl fel darlithydd yw creu amgylchedd cefnogol, a rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr sydd eu hangen arnynt i lwyddo’n academaidd ac yn eu bywydau.
Cefndir
- BA mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar
- MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned
- Siarad Cymraeg yn rhugl
- Yn astudio ar gyfer Tyst Ôl-radd AU
Rwy’n chwarae rhan yn y broses o lunio a datblygu cynnwys modylau o fewn fy rôl bresennol fel darlithydd y Blynyddoedd Cynnar, gan gynllunio ar gyfer pob modwl unigol a chyfleu dibenion a dyheadau i fyfyrwyr.
Mae f’ymrwymiad parhaus i gyfoethogiad proffesiynol yn amlwg drwy arfer, drwy adolygu cynlluniau gwersi a mynychu hyfforddiant pellach. Roeddwn i’n ffodus i weld â’m llygaid fy hun y dulliau addysgu a ddefnyddir yn Reggio Emilia, yr Eidal. Bu’r profiad hwn yn gymorth i mi ddatblygu fy ngallu i gefnogi’n well lunio ystyr i blant a phobl ifanc.
Gan fy mod yn dod o arfer Blynyddoedd Cynnar (ystod oed 0–8), rwyf bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd partneriaeth lawn a chyfartal â theuluoedd, plant, a gweithwyr proffesiynol eraill. Bu cydweithio â’r gweithwyr proffesiynol hynny a’r teuluoedd dan sylw’n fodd i mi hyrwyddo dysgu gan blant a’u datblygiad, gan adeiladu ar eu llwyddiant yn y dyfodol.
Rwy’n hyblyg yn nhermau gweithio ar wahanol gampysau ac wedi bod yn teithio rhwng Caerfyrddin ac Abertawe ers dechrau gweithio yn y Brifysgol. Rwyf hefyd wedi addysgu grwpiau hyblyg rhan-amser, gan roi darlithoedd gyda’r hwyr ac yn achlysurol ar ddydd Sadwrn.
Diddordebau Academaidd
Modylau a addysgir
Lefel 4
- Sgiliau Academaidd,
- Chwarae: Theori ac Arfer,
- Y 1000 Diwrnod Cyntaf,
- Datblygiad Dynol,
- Ymarferydd Proffesiynol,
- Addysg: Ddoe, Heddiw, Yfory,
- Damcaniaeth ac Arfer Dysgu
Lefel 5
- Amlieithrwydd,
- Diogelu,
- Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm,
- Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol,
- Syndod a Rhyfeddod,
- Llesiant a Byw’n Iach,
- Mae Pawb yn Golygu Pawb,
- Y Tri R
Lefel 6
- Arweinyddiaeth Gynhwysol,
- Arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer systemau ansawdd,
- Cefnogi Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Meysydd Ymchwil
Addysgeg chwarae
Mae fy mhrif ddiddordeb mewn chwarae a’i bwysigrwydd i ddatblygiad plant. Gyda fy nghydweithiwr, rwyf wedi dechrau ymchwilio i gyfleoedd am gyllid allanol gyda Chyngor Sir Penfro, am eu bod wedi dynodi y byddai ymarferwyr yn eu hardal yn cael budd o weld perthnasedd chwarae i addysg. Anogir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau dychmygus a chydweithredol, lle mae’r ffocws yn parhau ar archwilio, hwyl, arbrofi, a’r rhyddid i archwilio ffyrdd newydd o feddwl a rhyngweithio heb bwysau deilliant strwythuredig.
Gan ddilyn ymlaen o lwyddiant yr hyfforddiant, rydym bellach yn trefnu sesiynau dilynol ynghylch arsylwi ac asesu i’r mynychwyr hynny.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae fy ngwaith prosiect yn y gorffennol hefyd wedi cynnwys gweithdai dysgu mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Nod y gweithdai hyn oedd ehangu mynediad i fyfyrwyr o Gymru, yn y gobaith o gynyddu nifer y bobl ifanc oedd yn dod i mewn i addysg uwch. Bu hyn yn gymorth o ran rhoi sail ar gyfer f’ymchwil pellach mewn hyrwyddo ehangu mynediad a chyfle cyfartal mewn addysg uwch.
Wythnos gyflogadwyedd
Rwy’n helpu hefyd i redeg ein hwythnos gyflogadwyedd sydd â’r nod o wella gwybodaeth a hyder myfyrwyr er mwyn cynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd. Yn gyffredinol, mae ein hwythnos gyflogadwyedd yn paratoi myfyrwyr am y farchnad swyddi a’u dyfodol drwy bontio’r bwlch rhwng eu hastudiaethau academaidd a sgiliau ymarferol chwilio am swyddi. Mae’r maes hwn o ddiddordeb i mi am fy mod i’n gallu helpu i wella canlyniadau myfyrwyr a chael gweld ein myfyrwyr yn llwyddo.
Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i ryngweithio â gweithwyr proffesiynol eraill, sydd yn aml wedi arwain at gydweithio, darlithwyr gwadd a chipolwg sy’n cyfoethogi fy nealltwriaeth innau a phobl eraill o fewn y maes.
Datgloi creadigrwydd drwy chwarae
Gweithdy newydd rwyf innau a chydweithiwr yn gweithio arno ar hyn o bryd yw datgloi creadigrwydd drwy chwarae. Yr amcanion yw deall y cysylltiad rhwng chwarae a chreadigrwydd a dysgu am dechnegau i gynnwys chwarae mewn arferion dyddiol neu amgylcheddau gwaith er mwyn meithrin creadigrwydd.
Arbenigedd
Arbenigedd mewn chwarae
O’r gweithdai rwyf wedi’u cyflwyno rwyf wedi datblygu dealltwriaeth ddofn ynghylch creu ac arwain addysgeg chwareus, boed hynny ar gyfer dysgu, mwynhau, iachau, neu ryngweithio cymdeithasol.