Skip page header and navigation

Rachel Bendall BA, TAR, Diploma Graddedig

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Strategol Ansawdd: Safonau Proffesiynol

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: 01792 482071 
E-bost: rachel.bendall@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Arweinydd Strategol ar Safonau Proffesiynol
  • Arweinydd Pwnc CGM (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg / Addysg Grefyddol) ar y rhaglen TAR
  • Tiwtor Cwricwlwm ar y rhaglenni TAR a BA Addysg 
  • Arweinydd modiwl
  • Aseswr aseiniadau (Lefel 4-7)

Cefndir

Yn ystod gyrfa 14 mlynedd fel athrawes ysgol uwchradd, ymgymerodd Rachel â sawl rôl fel Pennaeth Adran (Addysg Grefyddol) ac Uwch Arweinydd Asesu a Llythrennedd. Yn ystod yr amser hwnnw, mwynhaodd Rachel rôl weithredol hefyd fel mentor i fyfyrwyr TAR ac fel marciwr allanol ar gyfer arholiadau TGAU.

Ar hyn o bryd, fel Uwch Ddarlithydd, mae Rachel yn ymwneud â darparu modiwlau i fyfyrwyr Cynradd ac Uwchradd TAR yn ogystal ag arwain ar fodiwl ar gyfer myfyrwyr BA (Addysg) yn eu hail flwyddyn. Fe arweiniodd ar nifer o agweddau ar bartneriaeth rhaglenni AGA gydag ysgolion am chwe blynedd cyn ymgymryd â’i rôl bresennol o fewn ansawdd a safonau proffesiynol. Mae Rachel hefyd yn falch o weithredu fel Arolygydd Cymheiriaid AGA ar gyfer Estyn.

Ar hyn o bryd mae Rachel yn astudio ar y cwrs meistr mewn addysg (MA Addysg).

Aelod O

  • Aelod o PYCAG - Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol
  • Aelod o CYSAG Abertawe – Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol
  • Arolygydd Cymheiriaid AGA Estyn

Diddordebau Academaidd

  • Arwain y Dysgu: beth ydw i’n ei addysgu?
  • Ymchwilio’r Dysgu: pam ydw i’n addysgu?
  • Dysgwyr, ysgolion a chymunedau: ble ydw i’n addysgu?

Meysydd Ymchwil

  • Gweithio ar hyn o bryd tuag at radd Meistr mewn Addysg
  • Addysgu a dysgu
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth

Arbenigedd

  • Addysgu a dysgu
  • Sut mae darpar athrawon yn dysgu
  • Dysgu Proffesiynol
  • Safonau Proffesiynol

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygiadau sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol, yn enwedig wrth nodi meysydd sydd angen adnoddau ychwanegol a chyfieithu adnoddau cyfredol o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Wedi gweithio fel ymgynghorydd i’r BBC ar eu prosiect E-Clips a diweddaru eu gwefan Astudiaethau Crefyddol Bitesize.

Yn fwy diweddar wedi gweithio fel ymgynghorydd addysgol i’r BBC a Grain Media ar greu adnoddau fideo ar gyfer ystafell ddosbarth AG a’r Dyniaethau.

Cyhoeddiadau

Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2017), Dysgu am Ddilyniant: Llywio meddwl am Gwricwlwm i Gymru, Adroddiad Dros Dro gan Brosiect CAMAU.

Gwybodaeth bellach

Rwy’n trefnu’r Gynhadledd Addysg GrefyddolG flynyddol a gynhelir yn PCYDDS ochr yn ochr â Lat Blaylock o RE Today.