Llun a Chyflwyniad
Rôl yn y Brifysgol
Rwy’n Rheolwr Rhaglen ar gyfer y cwrs BA mewn Ffilm a Theledu. Rwy’n darlithio ar draws yr holl unedau cyd-destunol a damcaniaethol ac rwy hefyd yn darlithio mewn Astudiaethau Gweledol yn rhan o’r BA Darlunio. Rwy’n Diwtor Personol ar fyfyrwyr Lefel 4 ar draws y ddwy raglen astudio.
Cefndir
Cyn ymgymryd â’m swydd yn y Drindod Dewi Sant, roeddwn i’n Arweinydd Pwnc Astudiaethau Ffilm gyda’r Corff Arholi CBAC/Eduqas, gan arwain y gwaith o ddylunio, gweithredu, cyflwyno ac asesu cymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig mewn Ffilm a’r Cyfryngau ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae gennyf dros 12 mlynedd o brofiad o ddarlithio mewn Astudiaethau Ffilm a dylunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer oedolion ifanc. Yn ystod fy ngyrfa mewn Addysg Ffilm, rwyf wedi ceisio’n barhaus i ddarparu rhaglenni astudio mentrus i ddysgwyr. Rwy wedi gweithio’n agos gyda’r Sefydliad Ffilm Prydeinig i gefnogi eu strategaeth Dysgu a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol i sicrhau perthnasedd a dilysrwydd cymwysterau ôl 16, gan gynnwys rhoi cyngor ar amrywiaeth mewn paneli ffilmiau.
Rwy wedi cynhyrchu seremoni flynyddol Gwobrau Delwedd Symudol CBAC yn y BFI am bum mlynedd gan gael siaradwyr gwadd megis Edgar Wright, Peter Lord (CBE), Michael Sheen, a Sarah Gavron i ddod i ysbrydoli myfyrwyr.
Yn y gorffennol bûm yn rhaglennydd ar gyfer llinyn amrywiaeth Gŵyl Ddogfen Ryngwladol Sheffield, gan wylio ac argymell ceisiadau i’w cynnwys yn y rhaglen. Rwyf wedi gweithio fel Beirniad Ffilmiau ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau gan gynnwys Little White Lies Magazine a Media Magazine.
Diddordebau Academaidd
Rwy wedi siarad o blaid cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn digwyddiadau ar y thema Ffilm/Cyfryngau, wedi cynnal digwyddiadau panel ar y thema rhywedd mewn gwyliau gan gynnwys Gŵyl Ffilmiau Underwire, Gŵyl Ffilmiau Birds Eye View, Gŵyl Ffilmiau Comedi Llundain a Chynhadledd Ffilm a Chyfryngau’r BFI.
Rwy’n addysgu ar draws ystod o fodylau gan gynnwys:
- Astudiaethau Cyd-destunol
- Darlunio a Dylunio
- Astudiaethau Gweledol
- Theori Ffilm
- Beirniadaeth Ffilm
- Sinema’r Byd
- Astudiaethau Ymgysylltiad Gwylwyr
- Astudiaethau Cynrychiolaeth
Meysydd Ymchwil
Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â materion cynrychiolaeth ac ymgysylltiad gwylwyr ar draws y meysydd Darlunio a Ffilm. Mae hyrwyddo a chreu delweddaeth fenywaidd gadarnhaol wastad wedi bod yn ganolog i’m harfer fel artist a darlithydd ffilm ac mae’n rhywbeth rwy wedi’i archwilio’n gyson yn fy ymchwil. Fy nymuniad yw goleuo hanesion, bywydau a gwaddol menywod anghofiedig ac ymylol gan ddefnyddio cyfrwng darlunio a ffilm.