Skip page header and navigation

Stacey Coleman BA(Anrh), MSc, TAR (PCET), FHEA, CPsychol

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd mewn Seicoleg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: 01792 482126 
E-bost: stacey.coleman@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheolwr Rhaglen BSc Seicoleg a Throseddeg,
  • Darlithydd ar fodylau Seicoleg yn y ddisgyblaeth Seicoleg a Chwnsela,
  • Arweinydd modylau,
  • Tiwtor personol,
  • Goruchwyliwr traethodau hir,
  • Tiwtor blwyddyn Lefel 4,
  • Swyddog Derbyn Ôl-raddedigion,
  • Adolygydd y Panel Moeseg.

Cefndir

Cwblheais fy ngradd gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (y Drindod Dewi Sant nawr) yn 2013, gan raddio ag anrhydedd mewn Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg.  Ar ôl hyn dechreuais ar daith i hyfforddi fel athrawes gan gwblhau cymhwyster TAR (PCET) yn 2014. Cwblheais hyfforddiant fel goruchwyliwr yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac wedyn ymunais â’r tîm fel darlithydd amser llawn ym mis Mehefin 2014 gyda statws Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch (AAU).

Ers ymuno â’r tîm Seicoleg rwyf wedi astudio a chwblhau MSc mewn Seicoleg Gymhwysol Iechyd a Chymdeithas ac rwy’n gymwysedig i weinyddu, sgorio a dehongli profion personoliaeth (NEO-PI-R) a gallu ym maes Seicoleg Alwedigaethol, fel y’i cydnabyddir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.   Rwyf wedi parhau i gynnal fy statws fel gweinyddwr profion cofrestredig a chymwysedig ac rwyf yn weithredol ar y Gofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion (RQTU).

Mae fy niddordebau academaidd wedi’u gwreiddio’n gadarn ym maes Seicoleg Alwedigaethol ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn agweddau ar recriwtio (profion seicometrig), ymddygiad sefydliadol a gwahaniaethau rhwng y rhywiau a rhagfarn yn y gwaith.

Aelod O

Rwy’n aelod o’r sefydliadau / is-adrannau proffesiynol canlynol:

  • Cymdeithas Seicolegol Prydain [BPS; Aelod Graddedig]
  • Cangen Cymru y BPS
  • Is-adran Seicoleg Glinigol [BPS]
  • Cyfadran Caethiwed [BPS]
  • Is-adran Seicoleg Alwedigaethol [BPS]
  • Is-adran Academyddion, Athrawon ac Ymchwilwyr [BPS] – Aelod Siartredig Llawn
  • Cymdeithas Seicolegol America; Is-adran 50: Cymdeithas Seicoleg Caethiwed [APA]
  • Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch [FHEA]
  • Defnyddiwr profion a enwir ar y Gofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion [RQTU; BPS]

Diddordebau Academaidd

Mae fy meysydd addysgu’n cynnwys Seicoleg Alwedigaethol, dulliau ymchwil, dadansoddi ac ystadegau, a meysydd gwahaniaethau unigol.  Rwyf wedi arwain ar amrywiaeth o fodylau israddedig yn y meysydd hyn gydol fy ngyrfa hyd yn hyn ac wedi goruchwylio mwy na 30 o fyfyrwyr traethawd hir, yn bennaf mewn meysydd megis gwneud penderfyniadau mewn modd peryglus a chymryd risgiau, ymddygiad galwedigaethol, a rhagweld ymwneud â mathau peryglus o ymddygiad yn seiliedig ar wahaniaethau unigol. 

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn ymddygiad cyfoes yn y gweithle.  Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn agweddau ar ddulliau dethol a recriwtio a ddefnyddir mewn sefydliadau, a’r defnydd o brofion seicometrig i ddethol gweithwyr yn effeithiol. Hefyd mae gennyf ddiddordeb penodol mewn cymhwyso llawer o ddamcaniaethau seicolegol cymdeithasol i fyd gwaith a diddordeb brwd mewn agweddau ar gydraddoldeb yn y gwaith, yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i, ystyried rhagfarn ar sail rhyw yn y gweithle a’r ffyrdd y gallai unigolion wynebu gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eu hymddangosiad corfforol.

Arbenigedd

  • Defnyddiwr Profion Cynorthwyol: Gweinyddu Profion Galwedigaethol
  • Defnyddiwr Profion: Galwedigaethol, Gallu
  • Defnyddiwr Profion: Galwedigaethol, Personoliaeth [Wedi hyfforddi’n benodol i ddefnyddio Rhestren Bersonoliaeth NEO]
  • Cofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion (RQTU)

Cyhoeddiadau

  • Coleman, S. (2020). Predicting attitudes towards workaholism in higher education academics.Cyflwyniad poster yng Nghynhadledd Flynyddol Is-adran Seicoleg Alwedigaethol y BPS, Ionawr 2020.
  • Coleman, S.(2019). Engaging students in collaborative research in Psychology. Cyflwyniad llafar yng Nghynhadledd Nexus Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Gorffennaf 2019.
  • Coleman, S. L., Cooke, Z., Eaton-Thomas, K. M., and Hill, L. (2016). There is no “I” in Team. Cyflwyniad llafar yng Nghynhadledd Nexus Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Mawrth 2016.
  • Coleman, S., Phelps, C., & Hutchings, P. B. (2015). Recognising sustainability in psychology: Pitfalls and promise. Cyflwyniad llafar yng Nghynhadledd INSPIRE Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Mehefin 2015.
  • Coleman, S., Crabtree, R., Phelps, C., Hughes, C., Baker, A., French, H., Minou, M. & Hutchings, P. (2014). #Letthekeyboarddothetalking: Involving young people in the development and evaluation of an online psychosocial counselling intervention for young people affected by cancer.Cyflwyniad poster yng Nghynhadledd Iechyd y Genedl y BPS, Medi 2014.
  • Coleman, S. (2013). Do sensation seeking tendencies affect arousal in a simulated betting situation?Cyflwyniad poster traethawd hir yng nghynhadledd Cangen Cymru o’r BPS, Mai 2013.

Gwybodaeth bellach

  • Arholwr Allanol Pearson/Edexcel
  • Arbenigwr Asesu OCR
  • Adolygydd: Psychology Teaching Review