Skip page header and navigation

Stalin Jacob B.Eng., M.Eng. (PhD)

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig

Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg

E-bost: s.wpackiadhas@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n ddarlithydd ar gyfer modylau ar y rhaglenni BEng Electroneg Fewnblanedig a BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig a modylau peirianneg perthnasol eraill. Rwy’n paratoi tasgau asesu, cynnwys modylau, cynnwys rhaglenni ac asesiadau, ac rwy’n mentora ac yn ysgogi myfyrwyr.

Cefndir

Mae gen i ddeuddeg mlynedd o brofiad mewn darlithio ar fodylau peirianneg electronig, drydanol a thelathrebu ar gyfer rhaglenni Baglor a Meistr.

Diddordebau Academaidd

Rydw i wedi bod yn ddarlithydd ar gyfer y modylau canlynol:

  • Hanfodion Systemau Ynni
  • Dadansoddi Cylchedau Trydanol
  • Cylchedau Electronig
  • Electroneg Ddigidol
  • Offeryniaeth Ddiwydiannol
  • Peiriannau Trydanol
  • Rheolaeth Peirianneg
  • Systemau Mewnblanedig Amser Real
  • Technolegau Di-wifr
  • Microbrosesyddion a Microreolyddion
  • Cyfathrebu a Rhwydweithiau Optegol
  • Labordy Optegol a Microdon
  • Hanfodion Peirianneg Drydanol ac Electronig
  • Systemau Cyfathrebu
  • Technegau Cywasgu Amlgyfrwng
  • Pensaernïaeth Switshys Cyflymder Uchel
  • Labordy Systemau Cyfathrebu
  • Cylchedau Cyfannol Microdon
  • Profi Cylchedau VLSI
  • Dadansoddi a Dylunio Cylchedau Cyfannol Analog
  • Prosesu Signalau Digidol
  • Systemau Amser Real
  • Antenau a Lledaenu Tonnau
  • Labordy Rhwydweithiau Cyfrifiadurol

Meysydd Ymchwil

Fy maes ymchwil yw Systemau Cyfathrebu ac Electroneg Fewnblanedig.

Arbenigedd

Mae gen i dair blynedd o brofiad mewn arwain adran ac mae gen i arbenigedd mewn dylunio rhaglenni newydd, disgrifyddion modylau, a chynnwys modylau.

Mae gen i brofiad hefyd mewn gosod labordai ar gyfer Modylau Peirianneg Drydanol ac Electronig.