Llun a Chyflwyniad
Swyddog Cyllid, prosiect ‘Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: 01970 636543
E-bost: v.genn@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Swyddog Cyllid, yn delio â’r holl drafodion sy’n ymwneud â phrosiect ‘Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’. Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys, ymysg eraill, sicrhau bod yr holl wariant yn cydymffurfio â meini prawf rheoliadau ariannol WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i WEFO a hwyluso unrhyw gais archwilio sy’n dilyn. Trafod gyda chyd-weithwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar yr ochr gyllid ac yn y Gwasanaethau Ymchwil, Arloesi a Mentergarwch. Cymryd rhan yng ngweithgareddau ehangach a chyfarfodydd tîm ‘Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’.
Meysydd Ymchwil
Diddordebau ymchwil sy’n ymwneud yn bennaf â defnyddio technoleg ddigidol megis rhithrealiti sinematig, haptigau cinesthetig a chyffyrddol, a ffotogrametreg i gofnodi safleoedd archaeolegol a threftadaeth arfordirol a thanddwr, a’r defnydd o chwarae cyfrifiadurol difrifol fel ffordd i ddysgu am dreftadaeth a hanes. Rwyf yn canolbwyntio’n benodol ar allu technoleg ddigidol i gofnodi safleoedd sydd mewn perygl o gael eu colli yn sgil ffactorau neu ddigwyddiadau catastroffig neu amgylcheddol, fel gweithgaredd seismig yn Port Royal, neu safleoedd fel Pavlopetri sydd dan fygythiad oherwydd dinistr amgylcheddol.