Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Sylfaen  -  Cyrsiau Sylfaen y Dyniaethau

Cyrsiau Sylfaen y Dyniaethau

Ymgeisio drwy UCAS – Llawn Amser

Mae'r flwyddyn sylfaen a gynigir gan gyfadran y dyniaethau wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth pwnc-benodol sydd eu hangen i ymgymryd â chwrs gradd ac arbenigo mewn maes penodol. Mae cyrsiau sylfaen ar gael fel rhaglenni preswyl a rhaglenni dysgu o bell.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Codau UCAS

BA Gwareiddiadau’r Hen Fyd gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: ACF1
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: ARF1
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Y Beibl a Diwinyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen (Dysgu o Bell)
Cod UCAS: BTH8
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Gwrthdaro , Rhyfel a Chymdeithas gyda Blwyddyn Sylfaen (Dysgu o Bell)
Cod UCAS: CWS8
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: CRF1
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: HIF1
Gwnewch gais drwy UCAS

Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: LAF1
Gwnewch gais drwy UCAS

Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen Pellter (Blwyddyn Syflaen o Bell)
Cod UCAS: LAFD
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Athroniaeth gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: PHF1
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Athroniaeth, Crefydd a Moeseg gyda Blwyddyn Sylfaen (Dysgu o Bell)
Cod UCAS: PRT8
Gwnewch gais drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth Ymgeisio

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Rydym yn cynnig dosbarthiadau bach sy'n caniatáu rhyngweithio a thrafod rhagorol, yn ogystal â chefnogaeth ddigyffelyb gan y tiwtoriaid – y math na ellir ei gyflawni mewn darlithfeydd mawr sy'n llawn myfyrwyr.
  • Mae cael ystod mor eang o bynciau cysylltiedig o dan yr un to yn ein galluogi i dynnu ar brofiad ein darlithwyr amrywiol mewn meysydd fel Archaeoleg, Hanes yr Henfyd a mytholeg, astudiaethau crefyddol ac Islamaidd, athroniaeth ac astudiaethau Tsieineaidd i ddarparu rhaglen unigryw ac amrywiol a fydd o ddiddordeb i bawb.
  • Rydym yn seiliedig ar gampws anhygoel, sy'n gyfoethog mewn hanes ac wedi'i leoli mewn lleoliad gwych gyda darlithwyr brwdfrydig, ymroddedig. Mae pob un ohonynt yn ceisio gwneud eich amser yn y brifysgol yn brofiad unigryw ac arbennig gan roi cychwyn i chi ar yrfa gyffrous.
  • Amgylchedd cefnogol i’ch helpu i ddychwelyd i astudio.
  • Cyrsiau Preswyl a Dysgu o Bell ar gael.  

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Yn addas ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd i addysg ar ôl peth amser i ffwrdd neu'r rhai nad ydynt yn siŵr pa faes o fewn y Dyniaethau y maent am ei archwilio ymhellach. Mae ystod o sgiliau astudio generig wedi'u cyfuno â modylau pwnc-benodol yn golygu y gallwch symud ymlaen i'ch dysgu lefel 4 yn hyderus gan y bydd y cwrs yn rhoi blas i chi ar ychydig o gyrsiau dyniaethau gwahanol sydd gennym i'w cynnig, gan wneud y penderfyniad ar gyfer dilyniant yn haws.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Sylfaen – Lefel 3

  • Sgiliau Goroesi Academaidd (20 credyd; gorfodol)
  • Ysgrifennu Academaidd (10 credyd; gorfodol)
  • Bod yn Ddynol (20 credyd; dewisol)
  • Ymchwiliad Annibynnol (10 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i'r Dyniaethau (10 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Fywyd Prifysgol (10 credyd; gorfodol)
  • Siarad â'r Meirw (20 credyd; dewisol)
  • Dealltwriaeth o Ddemocratiaeth (20 credyd; dewisol)
  • Deall Llenyddiaeth (20 credyd; dewisol).
Asesiad

Mae'r dulliau asesu'n amrywiol, ac yn dibynnu ar y modwl sy'n cael ei astudio. 

Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan

Y Dyniaethau | Beth sy’n Wahanol am Lambed

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.  Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o swyddi gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

Costau Ychwanegol

Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

  • Gall myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.
  • Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith maes ddewisol:

Mae'r gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

  • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae'r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): tua £500 i £1,500
  • Gwibdeithiau unigol: tua £5 i £50
Cyrsiau Cysylltiedig

Hanes yr Hen Fyd
Cod UCAS: V110

Gwareiddiadau'r Hen Fyd
Cod UCAS: V901

Hanes
Cod UCAS: V100 

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth Pellach

Nid yw ein myfyrwyr yn archwilio pob math o ymddygiad cymdeithasol a diwylliannol dynol trwy eistedd a gwrando ar sut mae anthropolegwyr eraill yn deall y byd yn unig. Maen nhw'n profi sut beth ydyw i fyw fel nhw eu hunain.

Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar gymhwyso ac ymgysylltu â theori i fynd i'r afael â materion cymdeithasol. Rydym yn cydnabod mai cysylltiad ymarferol, uniongyrchol â diwylliannau ‘eraill’ yw'r ffordd orau o ddeall y fenter anthropolegol. Os byddwch yn dewis astudio gyda ni byddwch yn cael digon o gyfle i fod yn anthropolegydd – drwy gymhwyso'r wybodaeth rydych yn ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn y byd ‘go iawn'.

Os hoffech gael gwybod mwy, gallwch ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored.