Ydds Hafan - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - TAR Cynradd gyda SAC
Mae’r cwrs TAR Cynradd yn llwybr poblogaidd i raddedigion o safon sy’n dymuno ennill Statws Athro Cymwysedig. Mae’n gwrs dwys, ysgogol a heriol, a luniwyd i ddatblygu ac ymestyn sgiliau a dealltwriaeth broffesiynol.
Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad creadigol o fodylau yn y brifysgol ac mewn ysgolion, gyda’r myfyrwyr yn caffael gwybodaeth ddofn ac eang o ddysgu ac addysgu ar draws yr ystod oedran cynradd.
TAR Cynradd gyda SAC
Cod UCAS: 3CPM
Ymgeisio drwy UCAS
Diwrnod Agored TAR Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Sut i Wneud Cais Bwrsariaethau Hyfforddi Athrawon TAR UCAS
£9,000 (Cartref/EU)
£11,500 (Dramor)
Pam dewis YDDS | Yr Athrofa i astudio ar gyfer eich TAR?
- Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA
- Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol
- Cyfradd gyflogaeth ardderchog o 99% ar gyfer Graddedigion TAR (DLHE 2016/17)
- Cewch astudio ar gampws newydd modern Glannau Abertawe (SA1) gwerth £350m a’r campws hanesyddol yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal mae gennym safle bychan yn y Tramshed Tech, Caerdydd
- Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:
- Modylau gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.
Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil. Gallwch ddysgu rhagor yma:
Mae cynnwys y rhaglen wedi’i grwpio o dan bedwar pennawd modwl:
- Y Dysgwr – pwy ydw i’n ei addysgu?
- Dysgwyr, ysgolion a chymunedau – lle ydw i’n addysgu?
- Ymchwilio i’r dysgu – beth, pam a sut ydw i’n addysgu? (ffocws ar ymchwil)
- Arwain yr Addysgu – beth, pam a sut ydw i’n addysgu? (ffocws ar ddisgyblaeth pwnc ar waith)
Drwy drefnu’r modylau fel hyn byddwch yn gallu ffocysu ar y disgybl a chymryd ystyriaeth lawn o’r cyd-destun ehangach sy’n effeithio ar addysg.
Hefyd, byddwch yn gallu sicrhau bod eich arfer yn yr ystafell ddosbarth yn cael ei seilio ar sylfaen ymchwil gadarn.
Golyga hyn y bydd ein rhaglen yn eich herio’n ymarferol ac yn ddeallusol ar yr un pryd.
Caiff pob modwl ei asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, posteri a chyflwyniadau. Dylunnir yr aseiniadau i’ch galluogi i adfyfyrio ar eich arfer eich hun a pherthnasu’ch profiadau i’r ddamcaniaeth rydych wedi’i dysgu.
Caiff eich profiad addysgu proffesiynol ei asesu yn erbyn meini prawf y Safonau Addysgu Cymwysedig drwy arsylwadau gan eich tiwtoriaid a’ch mentoriaid a chyflwyno portffolio o waith sy’n brawf o’ch medrau yn erbyn y safonau hyn.
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:
- Astudiaethau achos
- Portffolios
- Cyflwyniad fideo
- Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.
Dyfarniad SAC
Dyfernir Statws Athro Cymwysedig (SAC) i’r darpar athrawon hynny sydd wedi bodloni’r safonau darpar athro proffesiynol ar gyfer SAC.
http://learning.gov.wales/resources/collections/professional-standards?lang=en
Asesir yr agwedd hon ar y rhaglen drwy bortffolio o dystiolaeth a dialog proffesiynol gyda mentor a thiwtor arbenigol.
Mae gan y Cyngor Gweithlu Addysg (corff statudol athrawon Cymru) wefan defnyddiol iawn:
Dolenni Diddorol
Athrofa Partneriaeth Dysgu Proffesiynol
Gwybodaeth allweddol
- Rachel Kay Bendall
- Catharine Bleasdale
- Siân Brooks
- Libby Chancer
- Angella Cooze
- Tom Cox
- Heddwen Davies
- Linda Davies
- Helen Denny
- Nerys M. Defis
- Alison Suzanne Evans
- Natalie Griffiths
- Stephen Hadley
- Sue M. James
- Carys Jennings
- Christine Jones
- Mathew Rees Jones
- Ceri Lewis
- Ishmael Lewis
- Catherine Morgan
- Gail Parker
- Nanna Ryder
- Shan Samuel-Thomas
- Elaine Sharpling
- David Stacey
- Diane Thomas
- Sioned Vaughan Hughes
- Rachel Wallis
- Aled Williams
- Iwan Ellis Williams
Gradd Israddedig
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.
Cymwysterau TGAU
Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3
Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.
Profiad Gwaith
Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.
Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn S_PGCE@uwtsd.ac.uk
Am beth ydym ni’n chwilio?
- Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
- Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
- Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
- Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
- Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
- Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
- Gwydnwch a dibynadwyedd
- Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
- Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?
- Ansawdd y datganiad personol
- Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
- Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
- Ansawdd y cyfweliad unigol
- Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.
Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.
Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen. Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.
Costau Ychwanegol
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau gorfodol:
- Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
- Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
- Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
- Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
- Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1
Costau Angenrheidiol:
- Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
- Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
- Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’
Dewisol:
- Costau argraffu
- Teithiau astudio dewisol
"Hoffwn ddweud diolch enfawr wrthych chi am roi i ni gyfleoedd dysgu, syniadau a chymorth diddiwedd, ac am rannu eich cariad at y Cyfnod Sylfaen gyda ni. Hefyd am gynllunio’r holl weithgareddau a sesiynau, sydd wedi bod yn ddifyr ac yn ddefnyddiol."
"Mae syniadau, cyfleoedd dysgu awyr agored, theori a chynllunio sesiynau gweithgareddau wedi rhoi’r cyfle i mi rannu a chael syniadau y gallaf eu defnyddio yn fy nosbarth fy hun ym mis Medi."
"Roeddwn yn caru gallu rhannu syniadau gyda myfyrwyr eraill ac yna gweld pa mor dda y maent yn gweithio gyda phlant go iawn. Rwy’n meddwl po fwyaf rydym yn rhannu syniadau ac arfer da, y gorau y byddwn ni!"
Strwythur y Rhaglen
Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:
- Modylau Gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Darpariaeth prifysgol
Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.
Ar gyfer rhai pynciau uwchradd, bydd y ddarpariaeth yn digwydd mewn man mwy arbenigol. Mae hyn yn cynnwys pynciau gwyddoniaeth uwchradd, a gynhelir yn y cyfleusterau gwych yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.
Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.
Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.
Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol
Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.
Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.
Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.
Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.
Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.
Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.