Gweithio o Bell | Mynediad I Ffeiliau a Meddalwedd | Darlithoedd a Chyfarfodydd Rhithwir | Cydweithio | Ar eich Dyfais Personol
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd rhaid i staff weithio o adref neu oddi ar y campws. Yma, gallwch ddarganfod pa ddulliau sydd ar gael i’ch galluogi i weithio oddi ar y campws gan gynnwys gliniaduron y Brifysgol neu eich dyfais bersonol eich hun.
Mae apiau Microsoft Office 365 ar gael i’w gosod ar eich dyfais adref sy’n eich galluogi i redeg holl apiau Office 365 fel Word, Excel a PowerPoint pan nad ydych ar y campws.
Gallwch hefyd osod a defnyddio:
- Microsoft Teams (ar gyfer gwasanaethau Cyfarfodydd a Chydweithio)
- OneDrive (i gyrchu ffeiliau)
Os oes gennych liniadur Windows a gyflenwyd gan y Brifysgol byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth cynwysedig o’r enw Direct Access i’ch galluogi i gysylltu’n ddiogel â holl Wasanaethau TG y Brifysgol fel pe baech ar y campws.
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, caiff y gwasanaeth hwn ei sefydlu’n awtomatig ar holl liniaduron Windows 10 staff y brifysgol ac mae’n gweithio’n ddiffwdan heb fod angen i chi wneud dim. Logiwch i mewn i’ch gliniadur a gweithio’n ôl yr arfer.
Os nad oes gennych liniadur a gyflenwyd gan y Brifysgol, gallwch gysylltu â’ch cyfrifiadur swyddfa o’ch dyfais bersonol.
Dim ond angen cyrchu gyrrwr a rennir (‘shared drive’)? Gallwch ddilyn y canllaw cam wrth gam isod. Dewiswch y canllaw sy’n cyd-fynd â’ch mathau chi o ddyfais prifysgol a phersonol.
Cyn i chi adael y swyddfa bydd angen i chi wneud rhai pethau a fydd yn gwneud y broses hon yn haws. Caiff y camau y mae angen i chi eu cymryd eu hamlinellu yn y canllawiau isod.
Canllawiau Mynediad TG o Bell:
|
Dyfais Windows Office |
Dyfais MacOS Office |
Dyfais Windows Home |
||
Dyfais MacOS Home |
Os yw eich dyfais Prifysgol wedi’i ddiffodd, cysylltwch â’r Ddesg Gwasanaeth TG yn ystod oriau gwaith arferol neu dderbynfa’r campws tu allan i oriau gwaith arferol am gymorth wrth droi eich cyfrifiadur swyddfa ymlaen.
Gallwch osod Microsoft Office 365 yn rhad ac am ddim ar eich dyfais bersonol gan gynnwys Outlook, Word, Excel, PowerPoint, Teams a Skype for Business.
Unwaith y bydd wedi’i osod ar eich dyfais bersonol, gallwch logio mewn gyda’ch cyfrif prifysgol a chyrchu’r un gwasanaethau a ffeiliau Microsoft fel pe baech ar y campws.
Fonau Symudol a Llechi
Edrychwch yn siop apiau eich dyfais am yr ap yr hoffech ei osod a’i lawrlwytho. Unwaith y bydd wedi lawrlwytho, logiwch i mewn i’r ap gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair prifysgol.
Gliniaduron a Chyfrifiaduron Windows ac Apple Mac
- Ewch i Microsoft Office a logio mewn gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair prifysgol
- Dilynwch y cyfarwyddiadau i osod Office 365
Ceir rhagor o gyfarwyddiadau manwl ar Wefan Microsoft neu gallwch wylio canllaw fideo Microsoft.
Os oes arnoch angen cydweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr gan gynnwys cynnal cyfarfodydd neu ddarlithoedd rhithwir, rydym yn argymell defnyddio Microsoft Teams.
I ddysgu sut i lawrlwytho a gwneud defnydd o Teams i ryngweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr, ewch i’n tudalen Microsoft Teams.
Os yw eich ffôn swyddfa yn ffôn Skype for Business, gallwch lawrlwytho’r feddalwedd Skype for Business ar eich cyfrifiadur cartref, gliniadur neu ddyfais symudol i wneud a derbyn galwadau ffôn fel pe baech ar y campws.
I ddysgu sut i lawrlwytho a gwneud defnydd o Skype for Business ewch i’n tudalen Skype for Business.
Rydym yn atgoffa staff eu bod yn dal i fod yn ymrwymedig i bolisïau’r Brifysgol wrth iddynt weithio o adref, yn arbennig y rheiny sy’n ymwneud â:
Rhaid i staff sy’n dymuno mynd ag offer TG perifferol adref o’u hoffer swyddfa (gan gynnwys bysellfyrddau, llygod a gorsafoedd docio) i’w helpu wrth weithio o gartref, siarad â’u Pennaeth Adran i gael cymeradwyaeth. Bydd yn ofynnol i’ch Pennaeth Adran gadw rhestr o bwy sydd wedi benthyg pa offer ynghyd â rhifau cyfresol gan roi gwybod i’r Adran Gyllid drwy insurance@uwtsd.ac.uk.
Sylwer, nid ydym yn caniatáu mynd â Chyfrifiaduron Bwrdd Gwaith nac iMac i’w defnyddio gartref.
Dyma’r broses ar gyfer benthyg offer TG perifferol dros dro:
- Cysylltwch â’ch Pennaeth Uned/Athrofa i wneud cais i fynd â pherifferolion TG adref o’ch swyddfa
- Bydd y Pennaeth Uned/Athrofa naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cais
- Yn achos offer y cafwyd cymeradwyaeth i fynd ag ef adref, bydd y Pennaeth Uned/Athrofa yn cadw rhestr o bwy sydd wedi benthyg pa offer (gan gynnwys rhifau cyfresol yr offer)
- Pennaeth Uned/Athrofa i anfon e-bost i insurance@uwtsd.ac.uk i gadarnhau bod offer wedi’i gymryd oddi ar y campws
Mae Canolfan Adnoddau TEL yn cynnwys canllawiau a fideos ar y technolegau craidd y bydd eu hangen arnoch wrth ddarparu addysgu ar-lein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol neu geisiadau am gymorth, cysylltwch â thîm TEL.
- Ymholiadau Moodle: moodle@uwtsd.ac.uk neu (01792) 481049
- Ymholiadau eraill yn ymwneud â TEL: tel@uwtsd.ac.uk neu (01792) 481119
- Gosodwch eich llwybrydd rhyngrwyd mor bell â phosibl o unrhyw ddyfeisiau eraill a allai amharu ar y signal, fel ar fwrdd neu silff yn hytrach nag ar y llawr.
- Peidiwch â diffodd eich llwybrydd. Gall cynnau a diffodd eich llwybrydd yn rheolaidd leihau cyflymder cyffredinol gan y bydd darparwyr yn ystyried hyn yn broblem gyda’r llinell.
- Os ydych chi’n cynnal galwadau neu gyfarfodydd fideo, bydd diffodd y fideo a defnyddio sain yn defnyddio llawer llai o’ch cyswllt rhyngrwyd.
- Ceisiwch ddechrau’r galwadau hyn ar adegau llai cyffredin, yn hytrach nag ar yr awr neu’r hanner awr.
- I gael y cyflymder band eang gorau, defnyddiwch gebl ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur yn uniongyrchol â’r llwybrydd yn hytrach na defnyddio cyswllt diwifr.
- Lle bo’n bosibl, ceisiwch beidio â defnyddio lîd ymestyn ffôn i gysylltu’r llwybrydd, oherwydd gallai hwn achosi ymyrraeth a allai leihau eich cyflymder.
- Mae’r dyfeisiau a allai ymyrryd â signal eich llwybrydd yn cynnwys: ffôn diwifr, monitor babi, lamp halogen, switsh pylu, stereo, seinyddion, teledu, a monitor.
- Gwnewch alwadau ffôn ar linell tir lle bo’n bosibl, o ystyried y cynnydd yn y galw ar y rhwydweithiau symudol.
- Os oes angen i chi ddefnyddio eich ffôn symudol, ceisiwch newid eich gosodiadau i ddefnyddio’r cyswllt diwifr yn enwedig mewn ardaloedd sydd â signal isel/gwael.
- Yn yr un modd, gallwch wneud galwadau llais dros y rhyngrwyd yn defnyddio apiau fel Facetime, Skype neu WhatsApp.
- Datgysylltwch ddyfeisiau, oherwydd po fwyaf o ddyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r cyswllt diwifr, yr isaf fydd cyflymder y cysylltiad. Yn aml mae dyfeisiau fel tabledi a ffonau clyfar yn gweithio yn y cefndir, felly diffoddwch y cyswllt diwifr ar y rhain pan na fyddwch chi’n eu defnyddio.
- Lawrlwythwch ffilmiau ymlaen llaw yn hytrach na’u ffrydio pan allai rhywun arall fod yn ceisio gwneud galwad fideo.
- Os ydych chi’n defnyddio cyswllt di-wifr, peidiwch â defnyddio ffwrn microdon pan fyddwch chi’n gwneud galwadau fideo, gwylio fideos HD neu wneud rhywbeth pwysig ar-lein.