Mae Dilysu Aml-ffactor yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch wrth gael mynediad i systemau TG y Brifysgol ac mae’n sicrhau bod eich cyfrif Prifysgol yn fwy diogel trwy eich amddiffyn chi a’r Brifysgol petai eich enw defnyddiwr a chyfrinair mewn perygl.

Sut gallaf i gwblhau gosod MFA ar gyfer Microsoft 365?

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd angen i chi fewngofnodi i wasanaethau Microsoft 365 gan gynnwys Outlook, Teams a SharePoint gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair fel arfer, ynghyd ag un dull ychwanegol o ddilysu.

Er mwyn cwblhau gosod y dilysu dilynwch y camau hyn:

Er mwyn lawrlwytho ap Microsoft Authenticator, chwiliwch am Microsoft Authenticator yn siop apiau’ch ffôn symudol neu ddefnyddio’r dolenni lawrlwytho isod ar eich ffôn symudol:

Gallwch ddewis o’r dulliau gwirio isod i osod y dilysu.  Rydym yn argymell yn fawr ddefnyddio ap Microsoft Authenticator er mwyn gwneud eich profiad yn fwy syml.  Os nad oes gennych ddyfais symudol i fewnosod yr ap neu os byddai’n well gennych beidio â gosod yr ap ar eich dyfais bersonol, gallwch ddewis neges destun SMS neu alwad ffôn.

  • Ap Microsoft Authenticator ar eich ffôn symudol
  • Cod dilysu a anfonir drwy neges destun SMS
  • Cymeradwyo dilysu drwy alwad ffôn awtomatig
Sut gallaf i newid fy null dilysu Microsoft 365?

Gallwch chi weld neu newid eich dull dilysu ar unrhyw adeg. 

  • Ewch i https://aka.ms/setupsecurityinfo
  • Dan Default Sign-in Method – cliciwch Change ac wedyn dewis y dull cysylltu sy’n well gennych yn y gwymplen
  • Gallwch ychwanegu dulliau cadarnhau eraill, gan gynnwys:
    1. Ffôn Symudol (anfonir cod drwy neges destun SMS i’ch ffôn symudol)
    2. Llinell Dir
  • Cliciwch Save – setup complete!
Cwestiynau Cyffredin MFA Microsoft 365

C. Pan gaf i ddyfais newydd yn lle’r ddyfais symudol gofrestredig y byddaf yn derbyn fy nghodau neu geisiadau am gadarnhau arni, beth bydd angen i mi ei wneud?

A. Bydd angen i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth ddiogelwch. Os byddwch yn dilyn ein hargymhelliad ac yn defnyddio dull ap Microsoft Authenticator, bydd hefyd angen i chi lawrlwytho’r ap ar eich ffôn symudol newydd.

  • Ewch i https://aka.ms/setupsecurityinfo
  • Dan Default Sign-in Method – cliciwch Change ac wedyn dewis y dull cysylltu sy’n well gennych yn y gwymplen
  • Gallwch ychwanegu dulliau cadarnhau eraill, gan gynnwys:
    • E-bost Personol (anfonir cod i gyfrif e-bost personol)
    • Ffôn Symudol (anfonir cod drwy neges destun SMS i’ch ffôn symudol)
    • Galwad Ffôn (galwad ffôn awtomataidd i gadarnhau’r dilysiad)
  • Cliciwch Save – setup complete!

C. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai angen i mi sganio cod QR wrth osod MFA. Allaf i ddim wneud hynny, beth dylwn i ei wneud?

A. Dan y cod QR, fe welwch god ac URL y gallwch ei gopïo a’i ludo yn ap Microsoft Authenticator i gwblhau’r broses osod. Ar sgrin sganio’r cod QR yn yr ap, dewiswch ‘or enter code manually’ i fynd i’r tudalen lle dylech ludo’r wybodaeth hon, wedyn gwasgu Finish.

C. A ofynnir i mi fewngofnodi i ap Outlook ar fy nyfais symudol?

A. Os ydy Cymwysiadau Microsoft megis Outlook, Teams neu Office 365 wedi’u gosod ar eich ffôn symudol neu lechen, gofynnir i chi gadarnhau pwy ydych chi. Bydd neges yn ymddangos ar eich ffôn yn gofyn i chi gymeradwyo’r mewngofnodi. Cliciwch Approve.

Sut dylwn i ddefnyddio MFA gyda MyTSD?

Nid yw’n ofynnol i chi gwblhau unrhyw broses i osod MFA ar gyfer MyTSD.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd yn ofynnol i chi fewngofnodi i MyTSD gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel arfer, ynghyd â chod awdurdodi un-tro a anfonir i’ch cyfrif e-bost Prifysgol.

Unwaith cewch wybod bod MFA wedi’i gychwyn i chi, dilynwch y camau yn ein Canllaw MFA MyTSD.

Sut dylwn i ddefnyddio MFA ar gyfer VPN?

Nid yw’n ofynnol i chi gwblhau unrhyw broses i osod MFA ar gyfer VPN.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd yn ofynnol i chi gysylltu â VPN y Brifysgol gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel arfer, ynghyd â chod awdurdodi un-tro a anfonir i’ch cyfrif e-bost Prifysgol.

Unwaith cewch wybod bod MFA wedi’i gychwyn i chi, dilynwch y camau yn y canllaw perthnasol isod.

Canllawiau Mynediad TG o Bell:

 Windows Office DeviceMacOS Office Device
Windows Home Device Personal Windows to University Windows Personal Windows to University MacOS
MacOS Home Device Personal MacOS to University Windows Personal MacOS to University MacOS

 

Sut gallaf i gwblhau gosod MFA ar gyfer MyView?

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i MyView gyda'ch rhif staff a'ch cyfrinair fel arfer ar ôl ei alluogi.  Bydd angen i chi ateb eich cwestiynau diogelwch a ddiffiniwyd ymlaen llaw.

Cliciwch yma: MyView MFA Security Questions User Guide a dilynwch y camau i gwblhau’r broses.

Sut ydw i’n cwblhau’r broses o osod MFA bluQube?

Ar ôl ei alluogi, bydd gofyn i chi fewngofnodi i bluQube gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair bluQube yn ôl yr arfer a bydd angen i chi roi Cod Mynediad Untro (OTP).

Er mwyn cwblhau’r broses osod, dilynwch y camau yng bluQube MFA User Guide OTP Cym.