Strategaeth Technoleg Gwybodaeth 2021-24
Technoleg a Systemau Gwybodaeth: Polisi Defnydd Derbyniol
Polisi Dod â’ch Dyfais Eich Hun (BYOD)
Polisi Rheoli Asedau TaSG
Polisi Ffonau Symudol
TG Werdd

Mentrau TG Werdd

Mae mentrau TG Werdd yn y Brifysgol yn cynnwys:

Ôl-troed gwyrdd gyda saethau gwyrdd ailgylchu

  • Cyflwyno PAWS (system reoli pŵer) ar draws holl gyfrifiaduron y Brifysgol (yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd cyfrifiaduron).  Felly bydd cyfrifiaduron y Brifysgol yn cau lawr ar ôl cyfnod a bennir pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, gan leihau’r egni a ddefnyddir.
  • Estynnwyd rhaglen gyfalaf newid cyfrifiaduron YDDS o gylch tair blynedd i gylch pum mlynedd.  Bydd cyfrifiaduron a newidir dan y cynllun hwn yn cael eu defnyddio mewn Ysgolion i ymestyn eu bywyd ymhellach.
  • Strategaeth caffael Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n sicrhau bod cyflenwyr yn darparu offer sydd â gofynion isel o ran pŵer a bod cyflenwyr yn lleihau deunydd pacio a'i bod yn bosibl ailgylchu hwnnw.
  • Caniatáu mynediad ychwanegol i staff sy’n gweithio gartref drwy Citrix a gwasanaethau eraill.
  • Prynwyd dyfeisiau amlswyddogaeth (MFD) sy’n defnyddio egni’n effeithlon yn lle argraffwyr a llungopiwyr ar draws y campysau.  Gosodwyd rhagosodiadau argraffu ar ddwy ochr er mwyn arbed papur ac yn ystod haf 2012 bydd holl argraffwyr pen fwrdd y staff yn cael eu symud, a’r holl waith argraffu yn cael ei wneud ar y peiriannau MFD
  • Gosod mwy na 100 gweinydd ffisegol ar un isadeiledd SAN rhithiol er mwyn lleihau’r pŵer a ddefnyddir
  • Adnewyddu ystafelloedd gweinyddion er mwyn darparu systemau mwy effeithlon ar gyfer oeri’r awyr a rheoli’r tymheredd
  • Treialu defnyddio dyfeisiau iPad mewn cyfarfodydd yn hytrach na bod cynrychiolwyr yn defnyddio copïau argraffedig

Cyngor defnyddiol

Diffodd

  • Gosodwch eich cyfrifiadur i gysgu’n awtomatig pan na fyddwch yn ei ddefnyddio
  • Diffoddwch eich cyfrifiadur a’ch monitor wrth ymadael
  • Defnyddiwch socedi estyniad deallus, sy’n diffodd popeth yn awtomatig pan fyddwch yn diffodd eich cyfrifiadur
  • Chwiliwch am ddulliau eraill o weithio heb adael eich cyfrifiadur ymlaen dros nos ac ar y penwythnos

Lleihau'r gwaith argraffu

  • Osgowch argraffu a llungopïo drwy anfon copïau electronig o lawlyfrau gweithwyr, dogfennau diogelwch a deunyddiau eraill sy’n cael eu rhannu
  • Gwaredwch eich argraffydd personol cyn iddo gael ei symud gan fod gwell dewisiadau eraill (MFD) ar gael i’r staff
  • Argraffwch ar ddwy ochr y papur (dwplecs) ac mewn graddlwyd pan fo'n bosibl
  • Ailgylchwch hen ddogfennau neu’u hailddefnyddio ar gyfer ffacsiau, papur sgrap, neu ddrafftio dogfennau

Defnyddio egni’n effeithlon

  • Arbedwch egni drwy ddefnyddio gliniaduron yn lle cyfrifiaduron pen fwrdd. Mae gliniadur, gorsaf ddocio a monitor 22” yn defnyddio tua 25W yn llai pryd mae’n cael ei ddefnyddio a 5W yn llai pryd nad yw'n cael ei ddefnyddio na chyfrifiadur a monitor 22".
  • Un ddyfais yn unig i bob aelod o staff
  • Defnyddio cyfrifiaduron a monitorau sy’n effeithlon o ran pŵer
  • Defnyddio’r cyfleusterau fideo-gynadledda ardderchog a Skype i leihau’r angen i deithio

Polisïau TG