Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -   Campysau, Canolfannau a Lleoliadau  -  Campws Llambed  -  Canolfan Tir Glas

Canolfan Tir Glas

A view from the air of Lampeter, a small, compact town surrounded by green fields.

Gweledigaeth newydd ar gyfer Llambed

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig gweledigaeth uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed a’r cyffiniau. Y mae’n gynllun hir-dymor sy’n ddibynnol, i raddau helaeth, ar gefnogaeth leol a chenedlaethol.

Bydd y Brifysgol yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, Cyngor Tref Llambed, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ac amryw o bartneriaid eraill yn Llambed, Ceredigion a Chanolbarth Cymru i ddatblygu’r fenter dros gyfnod o amser. Y gobaith yw y bydd y datblygiad yn sbarduno gweithgarwch economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn yr ardal gan chwistrellu bywyd ac egni o’r newydd i’r dref.      

Fel sefydliad craidd, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y broses o adfywio tref Llambed yn y cyfnod ôl-Covid. Gwêl y Brifysgol ei hun yn gatalydd ar gyfer newid. Bydd y newid hwnnw’n bositif, yn gynaliadwy, wedi ei anelu at yr hir-dymor a chan fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol.    

Mae cynnig y Brifysgol yn seiliedig ar hwyluso a chyflymu twf economaidd yn Llambed a’r cyffiniau. Mae cryfhau cydnerthedd economaidd yn ganolog i’r weledigaeth a hynny, yn fwy na heb, trwy fanteisio ar yr ystod o asedau naturiol sy’n bodoli’n lleol.

Rydym am weld cymuned hyderus sy’n llawn syniadau, cymuned sy’n barod i fentro, cymuned sy’n barod i newid ac addasu lle bo angen.

Trwy integreiddio’r amgylchedd lleol, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol a’r economi, mae’r Brifysgol yn grediniol y gellir datblygu cynllun arloesol a allai newid gobeithion Llambed a’r cyffiniau er gwell yn yr hir-dymor. 

Ar y naill law, bydd y cynllun yn ymateb i’r argyfwng ecolegol byd-eang; ar y llaw arall, bydd yn cynnig ateb lleol i ardal Llambed ac yn ddathliad teilwng o fywyd gwledig cyfoethog Ceredigion.