Bellach mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig mynediad 24/7 am ddim i bob myfyriwr i wasanaeth cymorth ar-lein Togetherall.
Mae Togetherall yn wasanaeth dienw y gallwch ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n teimlo’n isel, angen cymorth neu eisiau siarad.
Beth mae’n ei gynnig?
Gallwch ddysgu sgiliau ymarferol i’ch helpu i deimlo’n well a mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion.
- Gallwch ddefnyddio rhwydweithiau cymheiriaid i drafod eich problemau gyda phobl sy’n cael anawsterau tebyg
- Gallwch ddefnyddio offer hunanasesu i fonitro eich cynnydd
- Gallwch ymuno â chyrsiau a thrafodaethau grŵp ar faterion cyffredin megis meddwl yn negyddol a straen
Sut mae cofrestru?
- Ewch i wefan Togetherall
- Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost PCYDDS
- Dewiswch enw defnyddiwr anhysbys
- Defnyddiwch y cymorth sydd ei angen arnoch