Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Tystysgrif Addysg Uwch  -  Hyfforddiant Personol a Thylino ar gyfer Chwaraeon (TystAU)

Hyfforddiant Personol a Thylino ar gyfer Chwaraeon (TystAU)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r dystysgrif mewn Hyfforddiant Personol a Thylino ar gyfer Chwaraeon yn gwrs addysg uwch rhagarweiniol a ddyluniwyd i ddatblygu eich sgiliau fel hyfforddwr personol a therapydd tylino ar gyfer chwaraeon.

Byddwch yn gwella eich gwybodaeth mewn iechyd a ffitrwydd ac yn ennill profiad o weithio gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd a chyd-destun go iawn yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill gwobrau galwedigaethol mewn ffitrwydd, maeth a thylino. Byddwch yn gweithio gyda darlithwyr profiadol tu hwnt a fydd hefyd yn darparu cymorth tiwtorial unigol trwy gydol y cwrs.

Ar ôl graddio, byddwch yn barod i fynd i mewn i’r diwydiant iechyd a ffitrwydd neu fynd ymlaen i raglen radd BSc mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff.

40 Credyd icon

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Sut i wneud cais

Cod UCAS: PTS1
Gwnewch Gais drwy UCAS

Ewch i adran ymgeisio'r Brifysgol i ddysgu rhagor.

Dylai ymgeiswyr llawn amser sy'n dymuno dechrau ym mis Medi wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: g.forster@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Geraint Forster


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Cewch brofiad drwy brofi a hyfforddi cleientiaid go iawn.
  2. Datblygu sgiliau cyflogadwy iawn mewn hyfforddiant a cynllunio rhaglen.
  3. Defnyddiwch y technolegau diweddaraf i asesu iechyd a ffitrwydd.
  4. Byddwch yn ennill cymhwyster addysg mewn iechyd a ffitrwydd.
  5. Datblygwch eich dealltwriaeth wyddonol o iechyd a ffitrwydd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o ffisioleg dynol a sut y mae’r corff yn ymateb ac addasu i weithgarwch corfforol. Byddwch yn dysgu sut i gynnal a dehongli data asesiadau ffitrwydd ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddylunio a rheoli rhaglenni hyfforddi. Byddwch hefyd yn gwella eich dealltwriaeth o’r berthynas rhwng maeth, iechyd a ffitrwydd. Bydd y cwrs hefyd yn galluogi i chi ddatblygu’r technegau sy’n gysylltiedig â thylino ar gyfer chwaraeon a byddwch yn darparu triniaethau o fewn ein sesiynau clinigol.

Trwy gydol y cwrs, fe gewch y cyfle i ennill dyfarniadau galwedigaethol mewn hyfforddiant personol, tylino ar gyfer chwaraeon, maeth a chymorth cyntaf.

Pynciau Modylau

Blwyddyn 1 (Tyst AU)

  • Ffisioleg a Ffitrwydd Dynol (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
  • Cinesioleg (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Hyfforddiant Personol (20 credyd; gorfodol)
  • Tylino ar gyfer Chwaraeon (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Er bod y dystysgrif yn cael ei hasesu’n bennaf trwy gyfuniad o waith cwrs ac arholi ymarferol, bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth astudiaeth achos.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Llwyddiant Antur Awyr Agored, Cynefin a Graddedigion

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

32 o Bwyntiau UCAS

Cynigir cyfweliad i ymgeiswyr dros 21 oed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS .

Cyfleoedd Gyrfa

Mae 90% o’n graddedigion yn y maes pwnc hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis o raddio. Yn gyffredinol, bydd y dystysgrif mewn Hyfforddiant Personol yn datblygu graddedigion ar gyfer gyrfaoedd fel:

  • Hyfforddwr cryfder a chyflyru
  • Hyfforddwr personol
  • Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
  • Chwaraeon ieuenctid
  • Therapydd tylino ar gyfer chwaraeon
  • Ymgynghorydd ffitrwydd mewn amgylcheddau iechyd a ffitrwydd
Costau Ychwanegol

Gall dyfarniadau hyfforddiant galwedigaethol gynnwys costau ychwanegol yn amodol ar y cyrsiau a ddewisir.

Cyrsiau Cysylltiedig

Wrth gwblhau’r dystysgrif, byddwch yn gallu symud ymlaen i ail flwyddyn y BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff os ydych yn dymuno parhau â’ch astudiaethau.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.