Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Tystysgrif Addysg Uwch - Parodrwydd am Argyfwng ac Amddiffyn Sifil (TystAU)
Parodrwydd am Argyfwng ac Amddiffyn Sifil (TystAU)
Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
"Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn darparu ar gyfer argyfyngau sifil posibl, hynny yw, cynllunio parodrwydd am argyfwng, amddiffyn a rheoli. Mae’r Ddeddf yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer mwy o gydweithredu a rhannu gwybodaeth rhwng gwahanol wasanaethau brys a gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys a allai fod â rôl mewn argyfwng."
Mae’r rhaglen wedi’i llunio i gefnogi gweithwyr amddiffyn sifil proffesiynol yn y DG i gael cymhwyster academaidd galwedigaethol yn eu dewis broffesiwn. Mae’n cael ei thargedu at yr holl staff a allai fod â rhan mewn argyfyngau. Gallai cyfranogwyr fod yn y sector cyhoeddus (e.e. Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac ati), y sector preifat (e.e. cwmnïau cyfleustodau) neu gyrff anllywodraethol.
Nod y rhaglen yw datblygu cyd-ddealltwriaeth ynghylch trefniadau atal, paratoi, ymateb ac adferiad amlasiantaeth ar draws asiantaethau sy’n ymateb. Mae’r rhaglen yn cefnogi’r unigolion a’r sefydliadau hynny sydd â rôl i’w chwarae yn y fframwaith amddiffyn sifil ac, yn benodol, y sefydliadau hynny sydd â dyletswyddau dan y Ddeddf.
Mae cysylltiad agos wedi digwydd gyda chynrychiolwyr ar gyfer ymatebion brys o fewn y sector cyhoeddus, gan gynnwys timau cynllunio at argyfwng Awdurdodau Lleol, yn natblygiad y rhaglen, gan eu bod yn deall ac yn pennu’r set o sgiliau sydd eu hangen gan y dysgwr.
Ar ôl cwblhau Tystysgrif y Brifysgol yn llwyddiannus mae cyfle i ddysgwyr ychwanegu at y dyfarniad hwn drwy astudio 3 modwl pellach â chyfanswm o 120 credyd i gyflawni Tystysgrif Addysg Uwch.
Gwnewch gais yn uniongyrchol i’r Drindod Dewi Sant.
Academi Golau Glas Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu
Cartref: £4,200 yn cynnwys pedwar modwl dros ddwy flynedd. £2,800 ar gyfer dilyniant i’r Dystysgrif Addysg Uwch yn ymestyn dros y ddwy flynedd sy’n weddill.£1,400 ar gyfer y Dystysgrif Brifysgol 40-credyd.
Pam dewis y cwrs
Mae buddion eglur gan y rhaglen hon i’r unigolyn ac i sefydliadau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw ehangach.
I’r unigolyn mae’n cydnabod ac yn adeiladu ar ei gymhwysedd a’i arfer proffesiynol drwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n briodol, yn ddefnyddiol ac â ffocws.
I’r sefydliadau, bydd yn helpu i ddatblygu ymchwil academaidd a chan ymarferwyr ac felly gorpws o wybodaeth a fydd yn cyfoethogi cyfraniad mecanweithiau i asesu a rhagweld risg ac i gynllunio a pharatoi ar ei chyfer.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi Golau Glas.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Dull Dysgu Cyfunol
Mae’r rhaglen yn defnyddio dull dysgu cyfunol gan alluogi dysgwyr seiliedig ar waith i gwblhau llawer o’r rhaglen ar-lein o bell, a chan ddarparu’r hyblygrwydd mae ei angen arnynt i ymdopi â gwaith ac astudio.
Fodd bynnag, mae digwyddiadau wyneb yn wyneb yn caniatáu i ddysgwyr gyfuno’r dysgu cyfredol a’i ddatblygu ymhellach. Cynigir y modylau mewn talpiau bach dilynol o ddysgu, gan gynnig cyfle i ddysgwyr symud ymlaen o Dystysgrif y Brifysgol i Dystysgrif Addysg Uwch.
Disgwylir i ddysgwyr gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion damcaniaethol i gyd-destunau ymarferol.
Mae Tystysgrif y Brifysgol, sef y rhaglen gychwynnol, yn werth 40 credyd Lefel 4, ac mae’n archwilio’r sbardunau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol sy’n cefnogi cyflawni dyletswyddau amddiffyn sifil yn y DG. Bydd myfyrwyr yn ystyried Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, adroddiad Pollock a’r athrawiaeth ar y cyd gan JESIP.
Mae’r modylau a astudir yn gadael i fyfyrwyr ennill Tystysgrif Addysg Uwch drwy archwilio disgwyliadau ac asesiadau risg, diogelwch dinesig yn y Deyrnas Unedig, atal a pharatoi ar gyfer argyfyngau, yn ogystal ag ymateb i, ac adfer ar ôl, argyfyngau dinesig.
Defnyddir dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol ac maent yn amrywiol, yn gyfoes a phan fo’n bosibl yn gysylltiedig ag arfer proffesiynol. Defnyddir rhestrau darllen mewn perthynas â mynediad ar-lein a chronfeydd data o fewn Rhith-amgylchedd Dysgu’r Drindod Dewi Sant a’i llyfrgelloedd. Yn ogystal â rhestrau darllen penodol bydd arweinwyr modwl yn cyfeirio myfyrwyr at destunau a chyfeiriadau priodol er mwyn i bob arweinydd modwl gael rhyddid a hyblygrwydd o ran y darllen a argymhellir ganddo/ganddi.
Defnyddir asesu ffurfiannol yn helaeth gydol y rhaglenni i baratoi myfyrwyr am yr asesu crynodol; cyflawnir hyn drwy ymarferion ymarferol a gwblheir ar-lein a/neu a drafodir mewn sesiynau a amserlennir e.e. astudiaethau achos, gwaith ymarferol a chyflwyniadau gan ddysgwyr. Asesir pob modwl yn grynodol drwy dasgau asesu unigol sy’n rhoi adborth ar berfformiad dysgwr ar gyfer y modwl ond sy’n cynnwys cyfarwyddyd blaen-borth i gefnogi dysgwyr mewn modylau/dysgu dilynol.
Defnyddir ystod o ddulliau crynodol. Ni ddefnyddir arholiadau yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol o fewn sefyllfa cynllunio at argyfyngau. Gwaith cwrs a thasgau ymarferol yw’r prif strategaethau asesu am eu bod yn hwyluso asesu sy’n cyfuno gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol i’r lefel astudio ac i ofynion y gweithle. Mae’r asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau, cyflwyniadau a chynlluniau sy’n profi gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol a’r sgiliau ymarferol ac allweddol (trosglwyddadwy) sy’n adlewyrchu’r sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu defnyddio yn rôl eu swydd.
Gosodir gwaith cwrs a thasgau asesu ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynllun hyfforddi ac ymarfer amlasiantaeth
- Asesiadau Risg
- Cyflwyniadau
- Adroddiadau
- Aseiniadau ysgrifenedig
Gwybodaeth allweddol
Profiad proffesiynol perthnasol.
Un o bryderon unigolion uwch oedd yn gysylltiedig â chynllunio ac ymateb i ddigwyddiadau brys diweddar yng Nghymru a’r DU yw bod ychydig iawn o gyfleoedd i unigolion ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn.
Y nod yw darparu rhaglen a chyfres o fodylau a fydd yn cyfuno’r sgiliau, y pwerau a’r profiad iawn i fodloni gofynion heriol amddiffyn sifil. Fel y profwyd gan y pandemig diweddar, mae cynllunio a pharatoi at argyfwng yn hanfodol ac mae angen sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gael sy’n cael ei achredu’n academaidd ac sy’n cydnabod y sgiliau a’r adnabyddiaeth o bobl sydd eu hangen ar y rôl. Mae’r rhaglen hon yn darparu’r llwybr DPP achrededig hwn.
Mae’r sgiliau a enillir yn ystod y rhaglen hefyd yn gallu cael eu trosglwyddo ar draws proffesiynau neu sefydliadau.
Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r rhaglen hon, er byddai disgwyl i fyfyrwyr fod â mynediad at offer TG a byddai’n rhaid iddynt dalu am eu costau teithio eu hun i’r campws.
- Plismona Proffesiynol (BSc)
- Plismona (Arweinyddiaeth Weithredol a Strategol) (MSc)
- Caplaniaeth (MA, Tystysgrif y Brifysgol, Tyst Ôl-radd, Dip Ôl-radd)
- Cyfiawnder Troseddol a Phlismona (MA)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.