Heledd Roberts, BA Perfformio 2017

Former BA Perfformio student Heledd Roberts smiles at the camera.

“Trwy dderbyn hyfforddiant arbenigol gan unigolion profiadol iawn, fel Elen Bowman ac Eiry Thomas, yn ystod fy modylau actio, nid yn unig y dysgais i sut i fod yn well actor, ond fe wnaethon nhw hefyd fy ysbrydoli. Cefais fy nghyflwyno ganddyn nhw i dechnegau perfformio newydd – elfennau sydd wir wedi fy helpu i greu fy nghymeriad Anest yn Rownd a Rownd.

Dysgais i gymaint yn ystod fy amser ar y cwrs. Yn fy marn i, mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am berfformio yn ogystal â’r diwydiant ei hun – mae’n hyblyg iawn ac yn gallu addasu i ofynion myfyrwyr. Roedd fy mhrofiad yn y brifysgol – ar y cwrs dwys ac unigryw hwn – yn amhrisiadwy a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dyfodol yn y celfyddydau perfformio i edrych ar y cwrs BA Perfformio yn y Drindod Dewi Sant.”

Lloyd Macey, BA Perfformio 2017

BA Perfformio student Lloyd Macey pictured in a white shirt against a dark background.

“Dwi’n falch iawn fy mod i wedi astudio’r cwrs BA Perfformio yn y Drindod Dewi Sant – rhoddodd y cyfle i mi dyfu a datblygu fel perfformiwr ac i ddod o hyd i’m llais fy hun. 

Dwi ddim yn meddwl y byddwn i byth wedi cynnig am yr X Factor pe na bawn i wedi gwneud y cwrs hwn. Roeddwn i wastad wedi canu ac wedi cael profiad o ganu o’r blaen ond rhoddodd y cwrs hyder i mi ac fe wnaeth ddysgu cymaint i mi amdanaf i fy hun.  Dysgodd fi sut i sianelu fy nerfau... i feddwl fy mod i’n gallu canu o flaen miliynau o bobl bob penwythnos.. ddwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi gallu gwneud hynny. Felly na, fyddwn i byth wedi gwneud yr X Factor oni bai am yr holl waith caled a’r ymdrech y mae’r darlithwyr yn ei roi i’r cwrs yma.

Cawsom ein hannog i archwilio pob agwedd ar berfformio cyn penderfynu beth yr oeddem am ganolbwyntio arno – cawsom ni gymaint o brofiadau gwahanol. Buom ni’n gweithio hefyd gydag amrywiaeth enfawr o berfformwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd y theatr a’r teledu trwy gydol y cwrs – pobl sydd wedi gweld ein cynnydd a thystio i’n datblygiad.

Dwi i ddim yn meddwl y byddwn wedi cael y dewrder a’r hunan-gred i fynd am glyweliad ar gyfer yr X Factor oni bai am yr holl gyfleoedd a’r profiadau gwych a gefais yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs.”

Celyn Cartwright, BA Perfformio 2019

Celyn Cartwraight stands outside smiling widely in her graduation hat and gown.

“Mae’r ddwy flynedd yn Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn blatfform anhygoel i fi i allu mireinio fy nghrefft, ac o ganlyniad, symud ymlaen gyda’m haddysg. Roedd y tiwtoriaid ar y cwrs yn anhygoel, a gyda rhai ohonynt dal yn y diwydiant, ac eraill yn actorion a chyfarwyddwyr gynt, roedd y cyfan yn hollol addas. Roedd gwneud cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn help aruthrol. Mae gennym ni fel Cymry Cymraeg fantais oherwydd bod gennym ni rwydweithiau arbennig megis S4C, Theatr Genedlaethol Cymru a dramâu Cymraeg safonol, felly roedd gweithio drwy’r iaith wir yn gam yn y cyfeiriad cywir.”

Erin Summerhayes, BA Theatr Gerddorool, 2019

MA Musical Theatre student Erin Summerhayes looks seriously into the camera.

“Mae BA MT yn Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn bopeth y gobeithiais amdano a mwy. Mae proffesiynoldeb a chyfeillgarwch pawb yn rhagorol.

Rwyf wrth fy modd yn mwynhau'r hyfforddiant dwys yn y dair agwedd canu, actio a dawns a ddarparwyd ac ni allaf aros i barhau fy nhaith gyda nhw, gan fy nghael gam yn nes at gyflawni fy mreuddwyd. ”