Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
Ymchwil yn y Ganolfan
Mae ein gwaith cyfredol yn canolbwyntio ar y meysydd arbenigol canlynol:
- Astudiaethau Enwau Cymru
- Geiriaduraeth Gymraeg
- Ieithoedd Celtaidd cynnar
- Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
- Yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth yng Nghymru ac Ewrop
- Sosioieithyddiaeth y Gymraeg a ieithoedd Lleiafrifedig
- Cyfieithu Llenyddol
Mae rhai o’n staff hefyd yn gweithio ar Gelf Weledol, Archaeoleg, Hagiograffeg, Llên Merched, Llên Llydaw a Llên Teithio. Rydym yn croesawu ymholiadau am ymchwil ôl-raddedig ac ysgolheigion ar ymweliad o bedwar ban byd.
Gwybod mwy am ein gwaith neu cysylltwch ag Angharad Elias (a.elias@cymru.ac.uk) am ragor o wybodaeth.
Cymrodoriaeth Alan R. King mewn partneriaeth â Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg
Yn dilyn creu partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare yng Ngwlad y Basg, bydd Cymrodoriaeth Alan R. King yn cael ei chynnig yn flynyddol o 2022 ymlaen i ysgolhaig sydd yn arbenigo mewn sosioieithyddiaeth neu agweddau ar bolisi a chynllunio iaith yng Ngwlad y Basg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda'r Ganolfan am breswyliad. Mae galwad 2022 wedi cau ac mae hysbysiad y Panel i'w gael yma Hysbysiad: Dethol Athro Gwadd ac Ymchwilydd. Agorir galwad 2023 yn fuan.
Cliciwch am ragor o fanylion yn Gymraeg/Basgeg neu yn Saesneg/Sbaeneg a’r ffurflen gais.
Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig:
Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil.
Gallwch weld manylion am waith myfyrwyr ymchwil presennol a blaenorol yma.
Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.
Staff y Ganolfan
- Gruffudd Antur
- Alexandra Buchler
- Yr Athro Mary-Ann Constantine
- Dr Martin Crampin
- Nia Davies
- Dr Jenny Day
- Dr Elizabeth Edwards
- Dr Angharad Elias
- Victoria Genn
- Dr Gwen Gruffudd
- Elisabeth Howells
- Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston
- Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
- Dr Ffion M. Jones
- Dr Rhys Kaminski-Jones
- Yr Athro John Koch
- Yr Athro Ann Parry Owen
- Dr David Parsons
- Yr Athro Heather Williams
Staff Geiriadur Prifysgol Cymru
- Huw Davies
- Dr Jenny Day
- Dr G. Angharad Fychan
- Mr Andrew Hawke
- Yr Athro Ann Parry Owen
- Brenda Williams
- Mary Williams