Andrew Hawke

Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd   -  Mr Andrew Hawke

Mr Andrew Hawke BA

Golygydd Rheolaethol Geiriadur Prifysgol Cymru

Ffôn: 01970 631012
E-bost: ach@geiriadur.ac.uk



Mae ganddo gyfrifoldeb am brosiect Geiriadur Prifysgol Cymru a’r tîm o saith (chwech ar hyn o bryd) sy’n ei baratoi. Ef yw Prif Olygydd y Geiriadur.

Astudiodd y Gymraeg (gan gynnwys y Gernyweg a’r Llydaweg) yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ennill gradd BA (Dosbarth I).

Treuliodd bron i dair blynedd yn gweithio ar waith ymchwil tuag at eiriadur hanesyddol Cernyweg cyn cael ei benodi yn Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru.

Ochr yn ochr â’i waith golygyddol datblygodd system gyfrifiadurol i gysodi testun y Geiriadur yn awtomatig o M ymlaen a threfnodd ôl-ddigido’r cyfrolau cynharach, gan gael dyrchafiad yn Olygydd Cynorthwyol a Rheolwr Systemau a mynd yn Olygydd Rheolaethol a Phrif Olygydd y Geiriadur yn 2008.

Arweiniodd brosiect i drosi testun y Geiriadur i XML a sefydlu system gyfrifiadurol newydd (iLex) i’w olygu. Yn sgil hyn datblygwyd GPC Ar Lein, fersiwn digidol o’r Geiriadur ar y We a lansiwyd yn 2014, gydag apiau Android ac iOS yn dilyn yn 2016.

Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, arweiniodd gynllun i ddatblygu ‘GPC +’ yn 2018–19, prosiect torfoli peilot i drawsgrifio rhai o slipiau dyfynnu’r Geiriadur i gronfa ddata ddigidol.

Ei brif gyfrifoldeb academaidd yw golygu testun terfynol y Geiriadur wrth i erthyglau newydd gael eu llunio ac i’r hen erthyglau gael eu diweddaru.

Cafodd ei ddyrchafu’n Ddarllenydd gan Brifysgol Cymru yn 2015.

Mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ar seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn rhan o strategaeth Cymraeg 2050, ac yn cynghori nifer o gyrff a sefydliadau ar faterion geiriadurol, orgraffyddol, gramadegol, ac yn y blaen, gan wasanaethu ar nifer o bwyllgorau.

  • Y Gymraeg – geirfa, orgraff, gramadeg, etymoleg
  • Geiriadura hanesyddol
  • Geiriadura cyfrifiadurol
  • Hanes geiriadura – yn enwedig geiriadura Cymraeg a geiriadura hanesyddol
  • Y Gernyweg – iaith a llenyddiaeth ac yn enwedig hanes y ffynonellau llawysgrifol
  • Ymgynghorydd Iaith (Cymraeg a Chernyweg) i’r Oxford English Dictionary
  • Aelod o Fwrdd Ymgynghorol Faclair na Gàidhlig (geiriadur hanesyddol Gaeleg yr Alban)
  • Aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg (Llywodraeth Cymru)
  • Aelod o Banel Safoni’r Gymraeg (Llywodraeth Cymru)

‘Welsh Lexicography’ a ‘Cornish Lexicography’, yn Patrick Hanks a Gilles-Maurice de Schryver (goln.), International Handbook of Modern Lexis and Lexicography (Berlin: Springer, i’w gyhoeddi 2021): https://link.springer.com/referencework/10.1007/978-3-642-45369-4

‘Coping with an expanding vocabulary: the lexicographical contribution to Welsh’International Journal of Lexicography, 31.2 (2018), 229–48

‘Welsh dictionary’, yn Mary Ritchie Key a Bernard Comrie (goln.), The Intercontinental Dictionary Series (Leipzig: Max Planck Institute for Evolutionary Anthropology, 2015)

‘Defining and quotation evidence in historical dictionaries’, yn Philip Durkin (gol.), The Oxford Handbook of Lexicography (Oxford: Oxford University Press, 2015), tt. [176]–202

‘Geiriadur Prifysgol Cymru: ar seiliau cadarn? Geiriaduron hanesyddol, disgrifiadol, a rhagnodol’, yn Delyth Prys (gol.), Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg (Caerfyrddin: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2014)

Golygydd, Geiriadur Prifysgol Cymru: A Dictionary of the Welsh Language, Rhan 12 (Ail Argraffiad) (bôn1brig) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), 64tt

Golygydd, Geiriadur Prifysgol Cymru: A Dictionary of the Welsh Language, Rhan 11 (Ail Argraffiad) (bil1bôn1) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2012), 64tt

‘Dictionaries and grammars: Cornish’ a ‘Beunans Ke’, yn John T. Koch ac Antone Minard (goln.), The Celts: History, Life, and Culture (Santa Barbara: ABC-Clio, 2012)

Andrew Green [sic: sc. Hawke], ‘Angen help’, Y Casglwr, 105 (Haf 2012), 8

Golygydd, Geiriadur Prifysgol Cymru: A Dictionary of the Welsh Language, Rhan 10 (Ail Argraffiad) (bar1bil1) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2010), 64tt

‘Second time around: re-editing Geiriadur Prifysgol Cymru, papur a gyflwynwyd yn ‘The Fifth International Conference on Historical Lexicography and Lexicology’, Rhydychen, 16–18 Mehefin 2010 [adnodd ar lein: Oxford University Research Archive]

Golygydd (gyda Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan), Geiriadur Prifysgol Cymru: A Dictionary of the Welsh Language, Rhan 9 (Ail Argraffiad) (atchwelaf–bar1) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru 2009), 64tt

Grantiau a dderbyniwyd:

  • 2015–16: Llywodraeth Cymru (datblygu apiau): £40,500
  • 2016–17: Llywodraeth Cymru: £160,000
  • 2017–18: Llywodraeth Cymru: £160,000
    Llywodraeth Cymru – grant atodol: £70,000
  • 2018–19: Llywodraeth Cymru: £300,000
    Llywodraeth Cymru – Grant Arloesi ‘Cymraeg 2050’ ar gyfer GPC+: £20,000
  • 2019–20: Llywodraeth Cymru: £300,000
  • 2020–21: Llywodraeth Cymru: £300,000