Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru
Rydym ni wedi’n lleoli’n bennaf ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, er bod ein gwaith yn aml allan yn yr ysgolion a’r gymuned.
Rydym ni’n gweithio gyda phobl o bob oed a gallu i gynyddu cyfranogiad a chefnogi gweithgarwch corfforol ar bob ffurf, boed hynny’n chwarae cyn ysgol, mynd â’r ci am dro neu gystadlu yn nigwyddiadau pencampwriaeth y byd.
Mae’r Athrofa wedi cynnal ymchwil mewn sawl agwedd ar lythrennedd corfforol ar draws y rhychwant oes. Rydym ni wedi astudio cyfraniad y cwricwlwm plentyndod cynnar yng Nghymru i lythrennedd corfforol plant, ac effeithiau hyfforddiant dwysedd uchel ar y boblogaeth hŷn. Ar hyn o bryd rydym ni’n astudio cymhelliant pobl ifanc yn eu harddegau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, a’r cynnydd yn y niferoedd sy’n ymgymryd â gweithgareddau ffitrwydd yn yr awyr agored.
Rydym ni’n rheoli’r Prosiect Llythrennedd Corfforol i Ysgolion yn y rhanbarth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag ERW a Chwaraeon Cymru. Rydym ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion y tu allan i’r prosiect hwn i gefnogi datblygu llythrennedd corfforol.
Arbenigedd ym meysydd:
- Addysg Gorfforol
- Iechyd a lles
- Anafiadau chwaraeon a therapi chwaraeon
- Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Seicoleg
- Ffisioleg
- Hyfforddiant Personol
- Maetheg
- Addysg Awyr Agored ac Antur
I gael rhagor o wybodaeth
Dr. Nalda Wainwright
Ffôn: 01267 676730
E-bost: n.wainwright@uwtsd.ac.uk
Gwefan: www.physicalliteracy.cymru