Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae disgyblaeth Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant (YDDS) yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion.
Mae'r tîm yn cydweithio'n agos gyda’r tîm addysg athrawon yn y Brifysgol hefyd. Y tîm hwnnw sy’n cynnig yr arbenigedd o ran addysgeg a’r cwricwlwm tra bod y tîm Seicoleg a Chwnsela yn darparu’r arbenigedd academaidd ac ymchwil ym maes iechyd meddwl a llesiant. Bu’r Cyfarwyddwr Academaidd, Dr Ceri Phelps, yn arwain tîm ar draws saith prifysgol i ddatblygu’r modiwlau llesiant ar gyfer yr MA Addysg (Cymru), rhaglen gydweithredol unigryw wedi'i datblygu’n benodol ar gyfer athrawon cymwysedig fydd yn gwireddu amcanion y Cwricwlwm i Gymru.
Mae meysydd lle gall Seicoleg a Chwnsela ddarparu dysgu proffesiynol yn cynnwys:
- Sgiliau Cwnsela
- Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
- Goresgyn Rhagfarn a Gwahaniaethu mewn Addysg
- Straen, Ymdopi, a Gwydnwch
- Rheoli Pryder yn ystod COVID-19
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ceri.phelps@uwtsd