Two women in business suits sign a document.

Sgiliau ar gyfer Staff Ymchwil Sgiliau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil

  • Sgiliau a chyfleoedd datblygu ar gyfer staff ymchwil
    Dysgwch ragor am sgiliau sy’n benodol i ymchwil a chyfleoedd datblygu yn Y Drindod Dewi Sant. Link to a new page (details below)
  • Myfyriwr ymchwil?
    Sylwer mai staff ymchwil yw prif gynulleidfa’r Concordat. I gael manylion cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr ymchwil, ewch i lwyfan cymunedol y Coleg Doethurol.

Mae’r Brifysgol wedi llofnodi’r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr. Cytundeb rhwng rhanddeiliaid yw Concordat i wella cyflogaeth a chymorth i ymchwilwyr a gyrfaoedd ymchwilwyr mewn addysg uwch yn y DU. Mae’n nodi tair egwyddor glir:

  • Amgylchedd a diwylliant
  • Cyflogaeth
  • Datblygiad proffesiynol a gyrfaol

Mae’r egwyddorion yn seiliedig ar rwymedigaethau ar gyfer y pedwar grŵp rhanddeiliaid, arianwyr, sefydliadau, ymchwilwyr, a rheolwyr ymchwilwyr, i wireddu nodau’r concordat.

Ein cynllun gweithredu sefydliadol

Yn sgil llofnodi’r Concordat, mae gofyn i’r Brifysgol lenwi Dadansoddiad Bwlch a Chynllun Gweithredu yn nodi sut y bydd yn bodloni ei chyfrifoldebau dan y Concordat. Gellir lawrlwytho fersiwn drafft 2022/23 isod.

Eich cyfrifoldebau Concordat yn rheolwr ymchwilwyr

Amgylchedd a Diwylliant
  • Ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a rhoi’r rhain ar waith yn eu gwaith.
  • Sicrhau eu bod nhw a’u hymchwilwyr yn gweithredu’n unol â’r safonau uniondeb ymchwil ac ymddygiad proffesiynol uchaf posibl.
  • Hyrwyddo amgylchedd gweithio iach sy’n cefnogi lles ac iechyd meddwl ymchwilwyr, gan gynnwys adrodd am achosion o wahaniaethu, bwlio ac aflonyddu, ac uniondeb ymchwil gwael a mynd i’r afael â hwy.
  • Ystyried ceisiadau gweithio’n hyblyg a threfniadau priodol eraill i gefnogi ymchwilwyr yn llawn a hynny’n unol â hawliau statudol a pholisïau’r sefydliad.
  • Ymwneud â chyfleoedd i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau sy’n anelu at greu amgylchedd a diwylliant ymchwil mwy cadarnhaol yn eu sefydliad.
Cyflogaeth
  • Ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol fel eu bod yn gallu rheoli ymchwilwyr yn effeithiol a chyflawni eu dyletswydd gofal.
  • Ymgyfarwyddo â chodau ymarfer a deddfwriaethau cyflogaeth perthnasol, polisïau sefydliadol, a thelerau ac amodau cyllid grant a gweithio’n unol â hwy.
  • Ymrwymo i brosesau recriwtio, dyrchafu a gwobrwyo ymchwilwyr sy’n gynhwysol, teg a thryloyw a dangos tystiolaeth o hyn.
  • Cymryd rhan weithredol mewn sesiynau rheoli perfformiad adeiladol rheolaidd gyda’u hymchwilwyr.
  • Ymwneud â chyfleoedd i gyfrannu at ddatblygu polisïau perthnasol yn eu sefydliad.
Datblygiad Proffesiynol a Gyrfaol
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau datblygiad gyrfa rheolaidd gyda’u hymchwilwyr, gan gynnwys cynnal adolygiad datblygiad gyrfa o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Cefnogi ymchwilwyr wrth archwilio a pharatoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd - er enghraifft, drwy ddefnyddio mentoriaid a gweithwyr proffesiynol gyrfaoedd, hyfforddiant, a secondiadau.
  • Dyrannu o leiaf deg diwrnod pro rata, y flwyddyn, i’w hymchwilwyr ymgysylltu â datblygiad proffesiynol, gan gefnogi ymchwilwyr i gydbwyso’r gwaith o gyflawni eu hymchwil â’u datblygiad proffesiynol eu hun.
  • Nodi cyfleoedd, a rhoi amser (yn ogystal â’r lwfans o ddeg diwrnod ar gyfer datblygiad proffesiynol), i’w hymchwilwyr ddatblygu eu hunaniaeth ymchwil a sgiliau arwain ehangach, a rhoi clod a chydnabyddiaeth briodol i’w hymdrechion.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth i wella eu heffeithiolrwydd personol, ac i hyrwyddo agwedd gadarnhaol at ddatblygiad proffesiynol.

Eich cyfrifoldebau Concordat yn ymchwilwyr

Amgylchedd a Diwylliant
  • Cyfrannu’n weithredol at ddatblygu a chynnal a chadw diwylliant ymchwil cefnogol, teg a chynhwysol a bod yn gydweithwyr cefnogol, yn enwedig I ymchwilwyr a myfyrwyr mwy newydd.
  • Sicrhau eu bod yn gweithredu’n unol â pholisïau cyflogwyr a chyllidwyr o ran uniondeb ymchwil, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Cymryd camau gweithredu cadarnhaol tuag at gynnal a chadw eu hiechyd meddwl a’u lles.
  • Defnyddio’r mecanweithiau sydd ar gael i adrodd am staff nad ydynt yn bodloni’r safonau ymddwyn disgwyliedig, yn enwedig o ran gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio, a chamymddygiad ymchwil.
  • Ystyried cyfleoedd i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau sydd â’r nod o greu amgylchedd a diwylliant ymchwil mwy cadarnhaol yn eu sefydliad.
Cyflogaeth
  • Sicrhau eu bod yn gweithio’n unol â pholisïau’r sefydliad, gweithdrefnau a deddfwriaeth cyflogaeth, yn ogystal â gofynion eu cyllidwr.
  • Deall eu rhwymedigaethau a chyfrifoldebau o ran adrodd.
  • Ymwneud yn gadarnhaol â thrafodaethau rheoli perfformiad ac adolygiadau gyda’u rheolwyr.
  • Cydnabod eu rôl fel rhanddeiliaid allweddol yn eu sefydliad a’r gymuned academaidd ehangach a gweithredu ar y rôl hon.
Datblygiad Proffesiynol a Gyrfaol
  • Cymryd perchnogaeth dros eu gyrfa, gan nodi cyfleoedd i weithio tuag at nodau gyrfa, gan gynnwys cymryd rhan mewn isafswm o ddeg diwrnod o ddatblygiad personol pro rata y flwyddyn.
  • Archwilio a pharatoi ar gyfer amrywiaeth o opsiynau o ran gyrfa ar draws sectorau gwahanol, megis defnyddio mentoriaid, gweithwyr proffesiynol gyrfaoedd, hyfforddiant a secondiadau.
  • Cynnal a chadw cynllun datblygu gyrfa proffesiynol cyfredol ac adeiladu portffolio o dystiolaeth i ddangos y gellir defnyddio eu profiad, i gefnogi ceisiadau am swyddi.
  • Ymwneud yn gadarnhaol ag adolygiadau datblygiad gyrfa gyda’u rheolwyr.
  • Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu eu hunaniaeth ymchwil a sgiliau arwain ehangach a chymryd rhan ynddynt.
  • Ystyried cyfleoedd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth a’u profiadau o’r system ymchwil ehangach drwy, er enghraifft, rannu gwybodaeth, datblygu polisi, ymgysylltu â’r cyhoedd a masnacheiddio.