Cwricwlwm, Addysgeg ac Arweinyddiaeth
- Iechyd Meddwl a Llesiant
- Hyfforddi a Mentora
- Dysgu Proffesiynol: Arweinyddiaeth Addysgol (Tystysgrif Raddedig)
- Cyfleoedd ôl-raddedig eraill
Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Yr Athrofa - Dysgu Proffesiynol i Addysgwyr
Mae’r tîm Dysgu Proffesiynol yn Yr Athrofa yn gweithio gydag ysgolion, colegau a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol eraill i ddatblygu a darparu ystod o gyfleoedd, rhaglenni a phrofiadau dysgu proffesiynol.
Rydym yn cynnig mynediad at ymchwil prifysgol a’r gallu i ymgysylltu ag ef, ac yn cynnig modelau hyblyg i gefnogi achrediad a chydnabyddiaeth dysgu proffesiynol i addysgwyr ym mhob sector.
Mae gan Y Drindod Dewi Sant arbenigedd heb ei ail yn y maes hwn yn ogystal â’i phrofiad helaeth o weithio gydag ysgolion i gefnogi datblygiad llythrennedd ffisegol.
Mae arbenigedd ein staff a’u profiad o addysgu ar y cynllun Sabothol Cymraeg yn golygu eu bod yn gallu cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf. Gellir cynnig hyfforddiant iaith ar delerau masnachol i’r sector addysg yng Nghymru, bod y rhain yn gyrsiau ar gyfer y sector addysg bellach neu’n gyrsiau HMS wedi’u teilwra, er mwyn ymateb i anghenion y sectorau cynradd ac uwchradd.
Mynnwch olwg ar yr hyn allwn gynnig
Ideal for practising teachers, leaders and learning support staff, this package of workshops gives you the skills you need to get started in professional enquiry.
Mae’r Brifysgol, trwy’r Academi, yn darparu ar gyfer achredu dysgu allanol a datblygu rhaglenni mewn dau gyd-destun:
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ar-lein addysgiadol sydd yn rhad ac am ddim ac yn addas ar gyfer myfyrwyr Cyfnodau Allweddol 3 a 4 ac Ôl-16.
Mae’r cyrsiau’n cynnig llwybr dilyniant, o archwilio pynciau yn anffurfiol ac yn hamddenol, i astudio mwy strwythuredig gan arwain at 5-10 credyd ar Lefel 4. Mae pob cwrs wedi eu dylunio i ehangu sgiliau a gwybodaeth pwnc unigolion a darparu blas o Addysg Uwch.
Gwella dealltwriaeth fyd-eang o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn addysgwr mentrus. Mae gan Y Drindod Dewi Sant arbenigedd byd-enwog yn y maes hwn ac mae’r brifysgol wedi gweithio gydag ysgolion yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Ewch i'r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) i wybod mwy.