Mae grantiau teithio ymchwil Taith yn cefnogi staff academaidd ac ymchwilwyr, myfyrwyr ôl-raddedig (MORwyr), a staff technegol sy’n cynnal ymchwil, i ennill lleoliadau ymchwil, cyfleoedd rhwydweithio neu fynediad i gyfleusterau arbenigol. Bwriedir Taith ar gyfer staff ac ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n gweithio yng Nghymru.

Gellir cyllido’r canlynol drwy Taith: 

  • Cysylltiadau ymchwil dyfnach ac ystyrlon, cydweithrediadau a mynediad i gynwyseddau a chyfleusterau ymchwil rhyngwladol a rennir.
  • Hybu cydweithio ar ymchwil byd-eang a rhannu gwybodaeth.
  • Meithrin cyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau ymchwil drwy leoliadau.
  • Cefnogi datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr drwy fynediad i gydweithrediadau, rhwydweithiau a chyfleusterau rhyngwladol.

Gellir defnyddio ymweliadau archwiliadol (yn parhau rhwng tri diwrnod ac un mis) i gyfnewid gwybodaeth a chreu partneriaethau newydd sy’n cryfhau cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yn Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) Cymru a’u cymheiriaid rhyngwladol. Gall cyfranogwyr ymgymryd â gwaith ar gynigion neu bapurau ar gyfer ymchwil ar y cyd, neu gymryd rhan mewn ymweliadau archwiliadol i sefydlu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio, cydweithredu mewn gweithgareddau neu waith maes, neu gael mynediad i gyfleusterau neu offer arbenigol.  

Gellir hefyd ddefnyddio lleoliadau ymchwil a secondiadau (yn parhau rhwng pedwar diwrnod ar ddeg ac un flwyddyn) i ymgymryd â lleoliadau ymchwil sy’n cynnwys cyfleoedd rhyngddisgyblaethol a rhyngsectoraidd ar gyfer hyfforddiant, cydweithredu, a defnyddio cyfleusterau ymchwil mewn SAU partner.  

Gellir lawrlwytho gwybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer pob llinyn isod ar ffurf PDF neu Word. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau parthed Taith neu os bydd angen cymorth arnoch i wneud cais cysylltwch â gareth.thomas@uwtsd.ac.uk neu k.walker@uwtsd.ac.uk



Cysylltwch â web@uwtsd.ac.uk os gwelwch yn dda os bydd angen fformat arall arnoch.