Dan arweiniad INSPIRE, mae'r Rhaglen Cyflymydd Ymchwil ac Effaith (RIAP) yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol.

Gyda chefnogaeth Cyllid Arloesi Ymchwil Cymru, mae gan y rhaglen yr wyth llinyn a ganlyn:

  1. Dyfarniadau Datblygu Ymchwil
  2. Dyfarniadau Datblygu Ymchwil Gyrfa Gynnar
  3. Dyfarniadau Mynychu Cynhadledd
  4. Dyfarniadau Mynychu Cynhadledd Gyrfa Gynnar
  5. Cyfrif Cyflymydd Effaith
  6. Cronfa Cydweithredu Rhyngwladol
  7. Cronfa Sgiliau Ymchwilwyr
  8. Llysgenhadon Effaith ac Ymgysylltu

Gellir lawrlwytho manylion pob llinyn, sut i wneud cais a therfynau amser yng nghanllaw cyllido RIAP ac yn y dogfennau isod.  

I gydymffurfio â gweithdrefnau caffael Y Drindod Dewi Sant, peidiwch â cheisio hawlio arian yn ôl-weithredol. Dylid cyflwyno ffurflen  gais cyn prynu unrhyw beth.

Dyddiadau Cau Ceisiadau

Mae’r cyfnod ceisiadau ar gau. Cysylltwch ag INSPIRE am fanylion galwadau yn y dyfodol.

Strategaeth Ymchwil ac Arloesi

Dylai bod pob cais wedi’i alinio â Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol, sydd ar gael ar dudalen MyDay Y Drindod yma: UWTSD Research and Innovation Strategy 2022-2027

Cysylltwch â ni

Cyn gwneud cais, rydym yn eich cynghori i drafod eich syniadau gyda’r tîm INSPIRE a fydd yn hapus i roi cyngor a chefnogaeth i chi:

  • Dr Matt Briggs. Pennaeth Datblygu Ymchwil.
  • Dr Laura Stowe-Evans. Swyddog Gweithredol Datblygu Ymchwil
  • Gareth Thomas. Swyddog Gweithredol Datblygu Ymchwil
  • Gary Clifford.  Cyfarwyddwr Gweithredol Is-adran Datblygu Masnacheiddio

Ffurflenni Cais

Dyfarniadau Datblygu Ymchwil (llwybr sefydledig)

Mae Dyfarniadau Datblygu Ymchwil wedi’u llunio i ddarparu cymorth hyblyg i staff academaidd ddatblygu ceisiadau o ansawdd da am gyllid ymchwil.  Prif ddiben y cronfeydd yw darparu cyfnodau estynedig o amser o’r gwaith i ymchwilio, a hynny fel arfer am hyd at dri mis yn llawn amser i baratoi ceisiadau grant. Hefyd, mae cymorth datblygu cais ar gael i ymgeiswyr.

Dyfarniadau Datblygu Ymchwil Gyrfa Gynnar  

Bydd y dyfarniadau hyn yn darparu cymorth hyblyg er mwyn i staff academaidd ddatblygu allbynnau ymchwil o ansawdd uchel, ac i ymgysylltu â gweithgareddau eraill a fydd yn datblygu eu proffil ymchwil a’u gallu i wneud cais am gyllid ymchwil allanol.

Dyfarniadau Mynychu Cynhadledd

Diben Dyfarniadau Mynychu Cynhadledd yw datblygu rhwydweithiau cydweithredol staff ymchwil y Brifysgol a chynyddu nifer ac ansawdd y ceisiadau grant a gyflwynir. Er mwyn cyflawni’r dibenion hyn, gwahoddir ceisiadau gan staff academaidd sy’n cyflwyno papur yn seiliedig ar raglen ymchwil barhaus.

Dyfarniadau Mynychu Cynhadledd Gyrfa Gynnar

Bydd y dyfarniadau hyn yn darparu cyfleoedd i staff Ymchwil Gyrfa Gynnar adeiladu eu rhwydweithiau academaidd a dysgu’n uniongyrchol am ddatblygiadau ymchwil sy’n dod i’r amlwg yn y meysydd. Yn wahanol i’r llwybr sefydledig, ni fydd angen i ymgeiswyr ddarparu papur, ond dylent allu arddangos cyfle clir i ddatblygu drwy fynychu’r digwyddiad.

Cyfrif Cyflymydd Effaith

Bwriad Cyfrifon Cyflymydd Effaith yw cefnogi gweithgareddau sy'n cryfhau perthynas y Brifysgol â phartneriaid allanol strategol, manteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer effaith ymchwil mewn unrhyw sector, a gyrru rhagolygon masnacheiddio yn deillio o ymchwil y Brifysgol.  Mae'r dyfarniadau’n ymrwymiad gan y Brifysgol i gefnogi staff i gychwyn cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu a chynhyrchu effaith o ansawdd uchel. Mae dau ddyfarniad ar gael, y Dyfarniad Cymorth (£1000 - £5000) a’r Dyfarniadau Twf (£5,000 - £15,000).

Cronfa Cydweithredu Rhyngwladol

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun Taith, sy'n darparu cymorth pwysig ar gyfer datblygu gallu cydweithredol rhyngwladol ym maes ymchwil a chyfnewid gwybodaeth. Mae’r Dyfarniad Cydweithredu Rhyngwladol ar gael i gyd-gyllido gweithgarwch dan Lwybr 1, Symudedd Ymchwilwyr, a fydd yn cynorthwyo symudedd ymchwilwyr yng nghyfnod cynnar eu gyrfa ac ymchwilwyr sefydledig, dramor ac yn y wlad hon.  I gae mynediad i’r gronfa hon, gwnewch gais trwy raglen Taith Y Drindod Dewi Sant.

Cronfa Sgiliau Ymchwilwyr

Ochr yn ochr â chyfleoedd craidd ar gyfer datblygu ymchwilwyr sydd wedi’u mewnosod, mae’r Gronfa Sgiliau Ymchwilwyr yn darparu cymorth hyblyg ac ymatebol ar gyfer cyfleoedd mwy arbenigol neu ad hoc. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i, gyllid i gefnogi hyfforddiant ymchwil-benodol, hyfforddiant arweinyddiaeth ymchwil, hyfforddiant meddalwedd arbenigol neu hyfforddiant arall, a chefnogi’r gwaith o greu a darparu digwyddiadau ymchwil. 

I gydymffurfio â gweithdrefnau caffael Y Drindod Dewi Sant, peidiwch â cheisio hawlio arian yn ôl-weithredol. Dylid cyflwyno ffurflen gais cyn prynu unrhyw beth.

Llysgenhadon Effaith ac Ymgysylltu

Mae’r Llysgennad Effaith ac Ymgysylltu yn rôl drawsadrannol newydd a fydd yn uno ‘ysgogwyr newid’ y Brifysgol yn ffurfiol ag INSPIRE. Ym mhob un o flynyddoedd academaidd 22/23, 23/24 a 24/25, caiff hyd at ugain o aelodau staff eu penodi i rôl llysgennad dwy flynedd, rôl strategol a fydd yn ategu un o bedair is-adran weithredu INSPIRE. Cyhoeddir ceisiadau’n flynyddol.

Adroddiad

Dylai ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau’r ffurflen Adroddiad Dyfarniad un mis ar ôl diwedd y dyfarniad, fan bellaf.

Mae'r meini prawf gwerthuso a sgorio ceisiadau ar gael yn y ddogfen a ganlyn: