Skip page header and navigation

Ffioedd Israddedig

Introduction

Bydd ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion yn berthnasol i unrhyw fyfyrwyr sy’n gwneud cais o’r DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw ac Iwerddon.  

Dylai myfyrwyr tramor a’r UE ymweld â’n tudalennau ffioedd dysgu rhyngwladol. 

DU Adref

Cyrsiau Israddedig Llawn Amser

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwriad i gynyddu’r uchafswm ffi ddysgu ar gyfer myfyrwyr amser llawn, cartref, israddedig (a TAR) o £9,535 i £9,790 ym mis Tachwedd 2024.

O 1 Awst 2026, mae’r Brifysgol yn bwriadau codi’r ffi uwch o £9,790 y flwyddyn*. Bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gwrs israddedig neu TAR o Awst 2026 a myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau a gofrestrodd o fis Medi 2025.

Bydd y benthyciad ffioedd dysgu yn cael ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr cymwys.

*yn amodol ar gymeradwyaeth gan Medr, Y Comisiwn Addysg ac Ymchwil Trydyddol

Mae hyn yn cynnwys cyrsiau Baglor a chyrsiau rhagarweiniol fel cyrsiau CertHE, DipHE a Sylfaen. 

Bydd ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion yn berthnasol i unrhyw fyfyrwyr sy’n gwneud cais o’r DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw ac Iwerddon.  

Dylai myfyrwyr tramor a’r UE ymweld â’n tudalennau ffioedd dysgu rhyngwladol. 

Cyrsiau Israddedig Rhan-amser

Codir tâl ar gyrsiau israddedig rhan-amser fesul credyd. Mae gradd Baglor gydag Anrhydedd nodweddiadol yn 360 credyd i gyd.  

Ar gyfer 2025/26 y ffi fesul credyd yw £39. Y ffi am 60 credyd fyddai £2,340. Mae ffioedd ar gyfer 2026/27 i’w cadarnhau.

Cyrsiau Israddedig Eraill

Mae gan gyrsiau eraill fel Meistr Integredig, Rhaglen Sylfaen Ryngwladol a chyrsiau gyda blwyddyn leoliad ffioedd ansafonol.  

Gweler ein Amserlen Ffioedd Dysgu. 

  • Mae unigolion yn cysylltu â myfyrwyr gan gynnig talu eu ffioedd ar gyfraddau is neu o dan amodau arbennig. Fe all twyllwyr gyflwyno’u hunain fel asiantaethau neu gymdeithion dilys, gallent fod yn ffrind. Peidiwch fyth ag ymateb i’r cynigion hyn a thalwch eich ffioedd dysgu yn uniongyrchol i PCYDDS gan ddefnyddio’r dulliau talu awdurdodedig.

Ariannu eich Astudiaethau

Ariannu eich Astudiaethau

Rydym yn deall bod ariannu eich addysg yn rhan allweddol o’ch taith prifysgol. P’un a ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rydym yma i’ch cefnogi i lywio agweddau ariannol eich astudiaethau.