Sesiwn Flasu Ffotograffiaeth
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio un o’n cyrsiau ffotograffiaeth, pam na wnewch chi ymuno â sesiwn flasu a dysgu rhagor amdanom ni?
Fe gewch gyfle i gwrdd â staff a sgwrsio am y cyrsiau yn ogystal â dysgu rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer tynnu lluniau gwych adref.
Mae ein diwrnodau blasu wedi’u rhannu dros ddwy wythnos; mae sesiwn un yn gyflwyniad a gweithdy ar bortreadaeth gartref, mae sesiwn dau’n gyfle i adolygu a rhoi adborth ar y gwaith rydych wedi’i wneud.
Ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiwn Flasu ffotograffiaeth nesaf
Gweithdy Goleuo Portread wedi’i wneud adref
- Defnyddio goleuo tŷ – lamp, nenfwd, cannwyll, a golau ffôn
- Creu offer goleuo gyda deunyddiau tŷ (adlewyrchyddion yn defnyddio ffoil a cherdyn)
- Technegau goleuo sylfaenol – Rembrandt, Split, Butterfly, Loop
- Gallu i ddefnyddio ffôn, camera compact neu DSLR
- Mae’r sgiliau ac offer yma’n ychwanegiadau syml i wella esthetig eich delweddau’n ddramatig
Os ydych yn athro/darlithydd gydag archeb grŵp ac yr hoffech drefnu sesiwn bwrpasol, cysylltwch ag artanddesign@uwtsd.ac.uk
Mae croeso i chi gysylltu â Rheolwr y Rhaglen, Sian Addicott, os oes gennych unrhyw gwestiynau sian.addicott@uwtsd.ac.uk
Gweler y tudalennau Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (BA) a Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau (BA) am ragor o wybodaeth am y cyrsiau.