Sesiynau Blasu Ar-lein Israddedig
Dysgwch ragor am ein cyrsiau Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Drindod Dewi Sant Abertawe.
Yn anffodus, o ganlyniad i’r achosion Coronafeirws, rydym wedi gorfod gohirio ein diwrnodau agored arferol am gyfnod amhenodol.
Ymunwch â ni yn un o’n Sesiynau Blasu Ar-lein cyfeillgar ac anffurfiol a chewch atebion i’ch holl gwestiynau am y cyrsiau a ganlyn:
Cyrsiau Israddedig
- Gofal (CertHE)
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc, HND)
- Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (BSc, FdSc)
- Rheolaeth Iechyd (BSc, HND)
- Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd (Dip AU, Tyst AU )
- Astudiaethau Nyrsio a Gofal Iechyd Proffesiynol (TystAU)
Os nad ydych ar gael i ymuno â ni ar gyfer ein Sesiwn Blasu Ar-lein ond hoffech ddysgu rhagor am y portffolio Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Drindod Dewi Sant Abertawe, cysylltwch â ni.
Ydych chi wedi gwneud cais i astudio cwrs Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn barod yn Y Drindod Abertawe ond hoffech ddysgu rhagor? Ymunwch â’n Sesiwn Blasu Ar-lein.