Theatr Gerddorol a Chelfyddydau Perfformio– Sesiwn Ar-lein
Diddordeb mewn Theatr a Pherfformio?
Efallai fod rhai cwestiynau'n chwyrlio o’ch cwmpas wrth i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer y Brifysgol a’r radd y dylech chi ei hastudio.
Ydych chi'n dechrau meddwl am opsiynau? Beth yw'r cyfleoedd gyrfa a’r canlyniadau o ran swyddi? Faint o oriau cyswllt fydd? Faint o fyfyrwyr fydd yn fy ngrŵp i? Sut mae'r cyfleusterau? Sut mae’r llety? Sut brofiad yw astudio yng Nghaerdydd? Ai hwn yw'r dewis cywir i mi?
Ymunwch â ni ar gyfer cyflwyniad i BA Perfformio a BA Theatr Gerddorol a dysgu am y pynciau sy’n cael sylw drwy gydol ein cwrs gradd.
Cyfle i drafod gyda Chyfarwyddwr y Cwrs a sesiynau ymarferol gyda'n tîm ymroddedig o diwtoriaid
Actio: Elen Bowman a Robbie Bowman
Llais: Ian Nicholas
Mae'r sesiynau'n anffurfiol ac yn gyfeillgar. Byddem wrth ein bodd cael cwrdd â chi, felly cofrestrwch ar gyfer unrhyw un o'r dyddiadau isod