Mae cadwraeth ein byd naturiol, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a’r effeithiau y mae’r rhain yn eu cael ar bob agwedd o’n bywydau, wedi dod yn un o’r pryderon mwyaf arwyddocaol ar draws y byd yn yr 21ain ganrif. Mae addysg amgylcheddol yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr i helpu yn y frwydr i ddiogelu ein planed; mae myfyrwyr yn ymgysylltu â materion y byd go iawn sydd yn berthnasol ac yn creu effaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Os hoffech chi ennill gradd wyddonol, sy’n eich paratoi ar gyfer cyfleoedd i raddedigion medrus yn yr economi werdd ehangol, ymunwch â ni yn ein sesiwn flasu amgylcheddol. Gallwch brofi darlith enghreifftiol, sgwrsio â staff a myfyrwyr ar y cwrs, gweld taith rithwir o’n cyfleusterau a chael gwybodaeth hanfodol am gyfleoedd gyrfa yn y sector amgylcheddol.
Ymunwch â ni yn ein sesiwn flasu gyfeillgar ac anffurfiol i gael y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch i ddechrau’ch addysg amgylcheddol, a byddwch yn rhywun sy’n datrys problemau ac yn codi llais yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Llenwch y ffurflen isod i gadw lle.
Os ydych yn athro/darlithydd gydag archeb grŵp ac yr hoffech drefnu sesiwn bwrpasol, cysylltwch â’r Athro Rhian Jenkins: rhian.jenkins@uwtsd.ac.uk
Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd (BSc, HND, HNC)