Taniwch Switsh Cyfrifiadura yn YDDS
Mae technoleg yn chwildroi’r ffordd rydym yn byw a gweithio, ond credwch neu beidio, dim ond y dechrau yw hwn. Mae’r twf a’r gyfradd newid enfawr yn y sector cyfrifiadura a thechnoleg yn sicrhau galw parhaus am Raddedigion sydd â sgiliau a chymwysterau cyfoes.
Yn anffodus, o ganlyniad i’r achosion Coronafeirws, rydym wedi gorfod gohirio ein diwrnodau agored arferol am gyfnod amhenodol.
Ond, rydym yn paratoi er mwyn ailddechrau ein cyrsiau israddedig/ôl-raddedig o fis Medi, ac nid ydym am i chi fethu’r cyfle i ddysgu rhagor am yr hyn sydd gan Y Drindod Dewi Sant i’w gynnig!
Ymunwch â ni yn un o’n Sesiynau Blasu Ar-lein cyfeillgar ac anffurfiol a chewch atebion i’ch holl gwestiynau am y cyrsiau a ganlyn:
- Cyfrifiadura Cwmwl (BSc, HND, HNC)
- Datblygu Meddalwedd Cwmwl (BSc, HND, HNC)
- Animeiddio Cyfrifiadurol (BA)
- Cyfrifiadura ac Electroneg (Blwyddyn Sylfaen)
- Cyfrifiadura Cymhwysol (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Data a Systemau Gwybodaeth) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Cyfrifiadura (Datblygu’r We) (BSc, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
- Dylunio Gemau Cyfrifiadurol (BA)
- Sgiliau Digidol (TystAU)
- Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng, HND, Mynediad Sylfaen)
- Peirianneg Electroneg (BEng, HND, HNC)
- Sgiliau ar gyfer Electroneg (TystAU)