Dylunio Set a Cynhyrchu – Sesiwn Ar-lein
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Teledu, Ffilm, Theatr neu Ddigwyddiadau? Ydych chi’n mwynhau gwneud, creu, ac edrych ar sut maent yn creu’r pethau a welwn ar lwyfan a sgrîn? Yna efallai bydd Dylunio Set yn eich gweddu i’r dim.
Yma yn YDDS rydym yn ffocysu ar ddysgu ymarferol galwedigaethol wedi’i seilio ar ofynion diwydiant. Rydym yn frwd ynghylch gadael i’n myfyrwyr archwilio a chreu gwaith newydd cyffrous ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol diwydiant sy’n eu cysylltu â’r diwydiannau creadigol.
Dewch i’n sesiwn flasu i ddysgu rhagor am y cwrs a chymryd rhan mewn tasgau creadigol gyda thiwtoriaid y cwrs.