Architecture plan

CADWCH LE

Mae penseiri’n arbenigwyr mewn dylunio adeiladu a lleoedd, gan greu lleoliadau ar gyfer bywyd dynol. Eu prif sgil yw dylunio – y gallu i ddychmygu lleoedd a gwrthrychau tri dimensiwn a chymhwyso eu gwybodaeth o ddefnyddiau, adeiledd ac ynni i droi cysyniad yn realiti gan weithio gyda pheirianwyr, contractwyr a llawer o weithwyr proffesiynol eraill. 

Os ydych yn ystyried gwneud cais i astudio Pensaernïaeth, bydd angen portffolio arnoch i arddangos eich sgiliau a’ch cariad at y pwnc.

Gall y sesiwn flasu hon ddarparu help o ran beth i’w gynnwys yn eich portffolio, sut i’w gyflwyno a’r ffordd orau i amlygu eich sgiliau creadigol. Cewch siarad gyda phenseiri profiadol am y broses gyfweld, sut brofiad yw astudio’r pwnc hwn, a chael atebion i’ch cwestiynau fel y byddwch yn barod am eich cyfweliad holl-bwysig!

Ymunwch â ni yn ein sesiwn flasu gyfeillgar ac anffurfiol i gael yr help a’r cyngor y mae arnoch eu hangen.

Ein cyrsiau israddedig

Ddim ar gael i ymuno â ni ar gyfer ein Sesiwn Flasu Ar-lein ond hoffech ddysgu rhagor am Ysgol Bensaernïaeth Abertawe yn YDDS? Cysylltwch â ni - info@uwtsd.ac.uk.