Darganfyddwch fwy am ein cyrsiau Astudiaethau Addysg yn YDDS
Ymunwch â ni am un o'n Sesiynau Blasu Ar-lein gyfeillgar ac anffurfiol a chewch ateb i'ch holl gwestiynau ar y cyrsiau isod:
Ganolfan ar gyfer Dysgu ac Arweinyddiaeth Cyrsiau:
MA Cenedlaethol Addysg (Cymru)
Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.
Tystysgrif Raddedig mewn Arweinyddiaeth
Lluniwyd y rhaglen hon er mwyn:
- Datblygu arweinwyr heddiw ac yfory
- Creu cyfleoedd i ddatblygu arloesedd mewn arfer ar gyfer y cwricwlwm newydd.
- Sefydlu cymunedau ar gyfer ymchwil drwy rwydweithio a chydweithio.
Tystysgrif Raddedig mewn Dysgu Proffesiynol: Gwyddoniaeth, Saesneg neu Fathemateg
Lluniwyd y rhaglen hon er mwyn:
- Uwchsgilio staff addysgu cyfredol
- Ymgymryd ag ymchwil ysgol-seiliedig
- Cynnig cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a chydweithio
Diploma Graddedig mewn Dysgu Proffesiynol: Anawsterau Dysgu Difrifol, Dwys a Lluosog
Lluniwyd y rhaglen hon er mwyn:
- Uwchsgilio staff addysgu cyfredol.
- Ymgymryd ag ymchwil ysgol-seiliedig.
- Cynnig cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a chydweithio.
- Cynnig cyfle i symud ymlaen at gymwysterau gradd Meistr yn y dyfodol
MA Addysg
Mae'r MA Addysg yn rhaglen arloesol a chyfoes. Mae wedi ei wreiddio yn y cyd-destun addysg genedlaethol a lleol o ran dysgu proffesiynol. Mae’n rhaglen lwyddiannus o ran gwireddu ei amcanion ac wedi esgor ar nifer helaeth iawn o-raddedigion.
Llesiant, Datblygiad Dysgu ac Addysgu
Mae'r rhaglen hon yn cynnig astudiaeth academaidd o ystod amrywiol o bynciau sy'n berthnasol i’r sector addysg trwyddi draw. Mae’n cael ei gynnig ar sail amser llawn neu ran-amser yn ogystal ag opsiwn dysgu o bell. Mae'r cwrs hyblyg hwn wedi'i gynllunio i weddu i anghenion a diddordebau gweithwyr proffesiynol cyfredol yn ogystal â darpar weithwyr addysgol.
EdD
Mae'r ddoethuriaeth broffesiynol mewn addysg yn rhaglen sy'n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i bobl broffesiynol ym maes addysg i gwestiynu ymchwil, dadansoddi theori, a chynnal ymchwil gadarn a fydd yn effeithio ar bolisi ac ymarfer yn eu maes proffesiynol. Mae'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag addysg mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau: athrawon, arweinwyr a rheolwyr mewn ysgolion, darlithwyr mewn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, swyddogion y sector gwirfoddol a'r trydydd sector, staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sefydliadau hyfforddi ac yn y blaen. Mae'r rhaglen yn denu myfyrwyr sydd eu hunain yn gyfranwyr arweiniol i ddatblygu polisi ac arfer addysg yng Nghymru. Fe’i cynlluniwyd gan arbenigwyr addysg ar gyfer arbenigwyr addysg.