Hafan YDDS - Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant - Yr Athrofa Cytgord - Athrofa Cytgord - Athrawon Ymarfer ac Ymchwilwyr - John Sauven
John Sauven
John Sauven yw Cyfarwyddwr Gweithredol Greenpeace UK.
Ac yntau â chefndir mewn coedwigoedd, roedd yn rhan o’r ymdrech i sicrhau camau i ddiogelu coedwig law dymherus Great Bear yng Nghanada. Roedd yn frwydr epig rhwng cwmnïau coedwigo, masnachwyr pren a’u cwsmeriaid manwerthu yn Ewrop a Gogledd America.
John a gydlynodd yr ymgyrch ryngwladol i sicrhau moratoriwm ar ddifrodi pellach ar yr Amazon gan gynhyrchwyr soia ac yn ddiweddarach defnyddiwyd tactegau tebyg i gael moratoriwm gwartheg.
Defnyddiwyd tactegau tebyg mewn mannau eraill i fynd i’r afael â gyrwyr datgoedwigo yn cynnwys ar gyfer papur ac olew palmwydd yn Indonesia.
Yn y pen draw newidiodd hyn gadwyni cyflenwi llawer o gorfforaethau mwyaf y byd. Hon oedd un o ymgyrchoedd mwyaf llwyddiannus Greenpeace i amddiffyn ardaloedd mawr o goedwigoedd glaw cyflawn olaf y byd, gan ddarparu mesurau i ddiogelu’r hinsawdd a bioamrywiaeth yn ogystal â bywoliaethau pobl leol.
Yn 2010 cychwynnodd John Sauven yr ymgyrch i amddiffyn yr Arctig rhag chwiliadau am olew. Aeth yn frwydr arwrol yn gyntaf â Gazprom o Rwsia ac wedyn â Shell. Yn 2015 tynnodd Shell allan o’r Arctig.