Hafan YDDS  -  Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant   -  Yr Athrofa Cytgord  -  Athrofa Cytgord - Athrawon Ymarfer ac Ymchwilwyr  -  Peter Davis

Peter Davis

Image of Peter Davies

Mae cefndir gyrfa Peter Davies ym maes cyfrifoldeb corfforaethol gan weithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, yr Adran Masnach a Diwydiant a Busnes yn y Gymuned.

Dyfarnwyd OBE iddo yn 1995 am waith wrth sefydlu cysylltiadau rhwng busnes ac addysg dan Fenter Mentergarwch DTI.

Roedd Peter yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Business in the Community UK rhwng 1995 a 2005. Dychwelodd adre i Gymru yn 2005 a’i benodi'n Gomisiynydd Cymru ac yn Is-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r DU, gan roi cyngor annibynnol i lywodraethau Cymru a’r DU.

Yn dilyn cau Comisiwn y DU, penododd Llywodraeth Cymru e’n Gomisiynydd Cyntaf Dyfodol Cynaliadwy ym mis Ebrill 2011. Chwaraeodd rôl arweiniol yn natblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), yn enwedig trwy arwain y sgwrs genedlaethol ar y ‘Gymru a Garem’. Camodd i lawr o’r rôl hon ym mis Chwefror 2016 pan benodwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, swydd yn unol â’r Ddeddf.

Hefyd fe’i penodwyd yn gadeirydd annibynnol cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2011, gan gyflawni’r rôl hon tan fis Mawrth 2016.

Mae Peter hefyd wedi cyflawni ystod o brosiectau ymgynghorol er 2005, gan gynnwys yn gynghorydd i Elusennau’r Tywysog yng Nghymru ac i raglen ymchwil cyfrifoldeb corfforaethol Canolfan Moeseg St James yn Awstralia.

Roedd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu’r Sefydliad Cynaliadwyedd ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2011 lle mae ganddo rôl gysylltiol yn Athro Ymarfer.

Roedd ei bortffolio prosiectau’n canolbwyntio ar weithio i gefnogi cymunedau, dinasyddion a defnyddwyr ac mae’n cynnwys bod yn gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Grŵp Herio ar ran Cwsmeriaid Dŵr Cymru a’r elusen Maint Cymru, yn Gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Sir Benfro ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol BT Cymru.