Hafan YDDS  -  Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant   -  Yr Athrofa Cytgord  -  Athrofa Cytgord - Athrawon Ymarfer ac Ymchwilwyr  -  Tony Juniper

Tony Juniper

Image of Tony Juniper

Tony Juniper yw Cadeirydd Natural England, a chyn hynny bu’n Ymgynghorydd Arbennig gydag Uned Cynaliadwyedd Rhyngwladol Tywysog Cymru.

Mae ganddo’r swyddi canlynol:

Mae Tony yn siarad ac yn ysgrifennu'n eang ar themâu cadwraeth a chynaliadwyedd ac mae’n awdur llawer o lyfrau, yn cynnwys y llyfr poblogaidd iawn What has Nature ever done for us? a gyhoeddwyd yn 2013.

Dechreuodd ei yrfa yn adaregydd, gan weithio gyda Birdlife International. O 1990 gweithiodd gyda Chyfeillion y Ddaear, yn y lle cyntaf gan arwain yr ymgyrch dros y coedwigoedd glaw trofannol, ac o 2003-2008 ef oedd cyfarwyddwr gweithredol y mudiad. O 2000-2008 roedd yn Is-gadeirydd Cyfeillion y Ddaear Rhyngwladol.

Tony Juniper oedd y cyntaf i dderbyn medal Charles a Miriam Rothschild (2009) a dyfarnwyd graddau Doethur mewn Gwyddoniaeth anrhydeddus iddo gan Brifysgolion Bryste a Plymouth (2013).

Cyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, What is really happening to our planet?: the facts simply explained, ym mis Mehefin 2016. Gwefan: www.tonyjuniper.com, Twitter: @tonyjuniper.com