Image of misty peaks and valleys

Amcanion yr Athrofa Cytgord

  • archwilio’n feirniadol beth yw ‘Cytgord’ a’r modd y gellir ei roi ar waith mewn cymdeithas
  • noddi a threfnu digwyddiadau, datblygu cyhoeddiadau a darparu ysgoloriaethau

Mae’r syniad bod y bydysawd yn bodoli’n un cyfanwaith yn sylfaenol i lawer o athroniaethau’r hen fyd yn ogystal ag i wyddoniaeth fodern. Hyn sydd wrth wraidd y cysyniad bod y cosmos yn bodoli mewn cyflwr o Gytgord (ag ‘C’ fawr).  Yn ogystal, dyma sail y gred y gall bodau dynol fyw mewn cytgord â’r amgylchedd ehangach ac mae’n taro tant â llawer o draddodiadau o’r Dwyrain, o’r Gorllewin, o’r Hen Fyd a’r Newydd.  Yn ymarferol, mae i’r syniadau hyn oblygiadau o ran astudiaethau iechyd, addysg, busnes, pensaernïaeth, amaethyddiaeth, datrys gwrthdaro ac amrywiaeth o weithgareddau eraill.

Os yw popeth yn gysylltiedig mae popeth yn perthyn i’w gilydd, ac mae lles y naill yn dibynnu ar les y llall. Gellir cyd-destunoli’r syniadau hyn oddi mewn i fframwaith cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Cyfarwyddwr yr Athrofa Cytgord
Cytgord: Ein Diffiniad

O’r herwydd, mae’r diffiniad ymarferol o Gytgord sydd gennym wedi ei fabwysiadu o David Cadman, un o Athrawon Ymarfer Cytgord y Brifysgol:

 “Mae Cytgord yn fynegiant o gyfannedd, yn ffordd o edrych arnom ein hunain a’r byd rydym yn rhan ohono.  Mae’n ymwneud â chysylltiadau a pherthnasoedd. Mae cysylltiad annatod rhwng yr emosiynol, y deallusol a’r corfforol.    Rydym yn gysylltiedig â’n hamgylcheddau, yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol; ac mae pob rhan o’n cymunedau a’u hamgylcheddau’n gysylltiedig hefyd.    Mae Cytgord yn gofyn cwestiynau ynghylch perthynas, cyfiawnder, tegwch a pharch mewn perthnasoedd economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol.   A hithau’n ddisgyblaeth integreiddiol, gellir ei mynegi ar ffurf syniadau ac arfer.”

 (David Cadman 23 Mai 2017).

Os yw cynaliadwyedd yn dibynnu ar gytgord, ein tasg yn y Brifysgol ac yn y gymuned yw darganfod beth yw cytgord yn ymarferol.

Staff

Mae staff Y Drindod Dewi Sant y mae eu gwaith wedi cyfrannu at a chefnogi Athrofa Cytgord, ynghyd â datblygiadau ehangach, yn cynnwys y canlynol:

Meysydd Gweithgarwch
  • Athroniaeth
  • Addysg
  • Anthropoleg
  • Astudiaethau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd
  • Busnes
  • Busnes ac Entrepreneuriaeth
  • Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio
  • Cosmoleg, yn enwedig cosmolegau traddodiadol
  • Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Cymdeithaseg
  • Cymunedau
  • Diwinyddiaeth/astudiaethau crefyddol/ astudiaethau ffydd
  • Eiriolaeth
  • Hanes
  • Heddwch a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Iechyd a lles
  • Yr amgylchedd adeiledig a threfol
Sefydlu’r Athrofa Cytgord

Daeth yr Athrofa i fodolaeth yn ffurfiol ar 1 Ionawr 2019, gan ddeillio o waith a gychwynnwyd yn 2015 gan Jane Davidson ac a ddygwyd ymlaen gan Nicholas Campion. Rhan ganolog o’n cenhadaeth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ei wneud yn ofynnol i’r holl:

 ‘Gyrff cyhoeddus Cymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gan weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd’.

A bod yn fanwl gywir, dim ond yng Nghymru y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn berthnasol ond mae’n gosod esiampl i’r byd. Un o’r tybiaethau ymhlyg ynddi yw bod popeth yn gysylltiedig a bod i benderfyniadau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol oblygiadau ehangach ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Hwn yw un o’r prif syniadau sy’n gysylltiedig â Chytgord ac mae hyn yn sylfaenol i ddogfen y Cenhedloedd Unedig, Transforming our world: the 2030 Agenda for Sustainable Development, a gyhoeddwyd yn 2015, sy’n datgan:

'Rydym yn benderfynol o sicrhau y gall yr holl fodau dynol fwynhau bywydau llewyrchus a chyflawn a bod cynnydd economaidd, cymdeithasol a thechnolegol yn digwydd mewn cytgord â natur’.

Fideos

Gweld fideos Athrofa Cytgord

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni ynglŷn â gwaith yr Athrofa Cytgord.