Hafan YDDS - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Cyfadran Busnes a Rheolaeth - Ysgol Fusnes Abertawe
Ysgol Fusnes Abertawe
Croeso i Ysgol Fusnes Abertawe. Cyflogadwyedd yw ein prif ffocws. Mae gennym ymagwedd gymhwysol, seiliedig ar gyflogaeth at ein holl raglenni.
Byddwch yn profi ymagweddau arloesol at ddysgu a arweinir gan y myfyrwyr ac a gyflwynir gan weithwyr proffesiynol ac academyddion sydd i GYD yn meddu ar brofiad o’r diwydiant. Rydym yn deall y byd go-iawn.
Bydd pob myfyriwr israddedig yn gweithio gyda chyflogwr i gael profiad gwaith ymarferol yn y byd go-iawn. Rydym yn credu bod hyn yn hollbwysig er mwyn ichi ddeall y berthynas rhwng damcaniaeth ac arfer.
Dylunnir yr holl raglenni i roi i raddedigion y nodweddion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, e.e. arloesedd, creadigrwydd, ffordd o feddwl fentrus a’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau neu dasgau annisgwyl.
Rydym yn cynnig cymorth helaeth i’r rheiny sydd ei angen a gweithgareddau 'ymestyn' i'r rheiny sydd eisiau her ychwanegol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â davina-wyn.evans@uwtsd.ac.uk
Sylfaen
BA | HND
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (BA, DipAU)
- Cyfrifeg (BA)
- Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth (BA, DipAU)
- Rheolaeth Adnoddau Dynol (BA)
- Rheolaeth Busnes (BA)
- Rheolaeth Busnes (Digwyddiadau a Gwyliau) (BA)
- Y Gyfraith a Busnes (BA)
Pa bynnag gwrs y byddwch yn ei ddewis, gallwn eich sicrhau bod ein holl gyrsiau'n cael ei hadolygu'n rheolaidd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr i sicrhau bod y cwricwlwm yn gyfredol a bod graddedigion mor gyflogadwy â phosibl.
Mae llawer o'r cyrsiau'n cael eu mapio i gymwysterau cyrff proffesiynol fel y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), y Gymdeithas Siartredig Cyfrifyddion Ardystiedig (ACCA) a’r Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM). Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i astudio Busnes a Rheolaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Methu penderfynu pa gwrs sydd i chi? Dim problem. Ar gyfer cyrsiau Busnes a Rheolaeth rydym yn cynnig ichi’r hyblygrwydd i newid eich rhaglen ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf i unrhyw un o’r cyrsiau a restrir uchod.
Mae ein rhaglenni proffesiynol yn darparu amrywiaeth o gymwysterau sydd wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol byd-enwog fel:
- Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol
- Diploma mewn Marchnata Proffesiynol
- Diploma Digidol mewn Marchnata Proffesiynol
- Tystysgrif Canolradd mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol CIPD
- CIPD – Diploma Ôl-raddedig mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol
Gallwch astudio ein holl gyrsiau ôl-raddedig a phroffesiynol yn rhan amser er mwyn ichi allu astudio’n hyblyg i weddu’ch ffordd o fyw brysur.
Mae ein rhaglenni ôl-raddedig yn darparu amrywiaeth o lwybrau i’ch galluogi i arbenigo mewn maes Busnes a Rheolaeth o’ch dewis. Rydym yn cynnig:
- Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA)
- Yr MBA Ar-lein
- MSc Rheolaeth Ariannol
- MSc Masnachu a Marchnadoedd Ariannol
Gallwch astudio ein holl gyrsiau ôl-raddedig a phroffesiynol yn rhan amser er mwyn ichi allu astudio’n hyblyg i weddu’ch ffordd o fyw brysur.
ymchwilwyr gweithredol sy’n cyhoeddi eu gwaith mewn cyfnodolion arbenigol, llyfrau ac yn ein cyhoeddiad ein hun, ‘South Wales Business Review’.
Mae gan yr Ysgol Fusnes ddiddordebau ymchwil yn y meysydd a ganlyn:
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Rheoli Gwybodaeth
- Cynaliadwyedd
- Moeseg a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
- Entrepreneuriaeth
- Entrepreneuriaeth Gymdeithasol a Chymuned
- Ymdeimlad o Le
- Marchnata
- Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg
Pam Astudio Yma
- Cewch gyfle i gael achrediad proffesiynol wrth weithio gyda Busnesau neu mewn Busnes drwy gydol eich gradd.
- Mae’r dysgu a’r addysgu’n ffocysu ar astudiaethau achos go iawn. Cewch gyfleoedd i wneud interniaethau, i astudio dramor ac i fynd ar leoliadau gwaith.
- Mae ein holl ddarlithwyr yn ymarferwyr ac yn wybodus ynghylch ymchwil; edrychwch ar eu proffiliau yma
- Mae ein campws Busnes yng nghanol y ddinas a dim ond taith fer ar droed ydyw o draethau godidog Bae Abertawe.
- Cewch gymhwyster proffesiynol yn ogystal â’ch gradd.
- Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol. Cynigir ‘cyfaill’ ichi, sef myfyriwr sydd wedi’i hyfforddi i roi cymorth ichi drwy gydol eich astudiaethau. Cewch hefyd diwtor personol.
- Mae gennym ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a rheolaeth a ddarperir gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol a’r Ysgol a’r Brifysgol ichi gymryd rhan ynddynt.
- Nid ydym yn Ysgol Fusnes arferol. Rydym yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol #notbusinessasusual.