Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -  Gwasanaethau Proffesiynol  -  Ysgolion a Cholegau

Ysgolion a Cholegau



Barod am Brifysgol

Mae tîm Recriwtio Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion a cholegau, yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae’r tîm yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyrsiau, cyllid, bywyd myfyrwyr, sgiliau academaidd a llawer mwy. Ein nod yw hyrwyddo mynediad i Addysg Uwch i bawb, darparu gwybodaeth a chyngor o safon, a helpu i arwain myfyrwyr ar eu taith i’r brifysgol.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr y DU, eu rhieni a’u gwarchodwyr, athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd, gan ddarparu gwybodaeth gywir am gyrsiau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ogystal â chyngor diduedd ar Addysg Uwch. Fel aelodau gweithredol o Gymdeithas y Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA) fe’ch sicrheir bod y wybodaeth a’r cyngor a ddarperir gan ein tîm yn wybodus ac o safon broffesiynol.

Cysylltwch â ni

 Barod am Brifysgol