Astudio trwy Gyfrwng y Gymraeg
Mae'r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae Cangen y Brifysgol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwarae rôl flaenllaw gan gydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ar sawl lefel.
Pa un a ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl neu'n ddysgwr hyfedr, efallai y bydd cyfleoedd i chi astudio rhan o'ch cwrs neu'r cyfan ohono trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae rhai buddio o astudio trwy gyfrwng Cymraeg yn cynnwys:
- Y cyfle i ddatblygu eich sgiliau iaith ar lefel uwch
- Dod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill ar eich cwrs
- Byddwch yn fwy apelgar i gyflogwyr yn sectorau cyhoeddus a phreifat Cymru sy'n tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn well i fusnes
- Bydd gennych fynediad Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Israddedig
Darganfwch rhagor am y cyfleoedd ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a cymerwch gip ar ein 10 Rheswm Gwych i Siaradwyr Cymraeg Ddewis Y Drindod Dewi Sant.