Mae bywyd yn gallu bod yn anodd ag yn straen, a gall gwneud penderfyniadau pwysig am eich dyfodol fod yn dasg frawychus. Os nad ydyn yn cymryd yr amser i edrych ar ôl ein hunain a'n hiechyd meddwl, gall y straen hwn gronni.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u creu i'ch atgoffa ei bod yn bwysig eich bod yn gofalu amdano'ch hun a'ch lles
Cewch eich arwain trwy'r sleidiau yma gan lais Dr. Charlotte Greenway, darlithydd Seicoleg Gymhwysol y Brifysgol, sy'n gofyn ichi gwblhau gweithgareddau i'ch helpu i ddeall sut y gallwn adnabod teimladau o bryder - sut y mae'n datblygu a sut y gallwn ei reoli gyda thechnegau ag ymarferion defnyddiol. Ymddiheuriadau mai Saesneg yn unig yw'r cyflwyniad yma.
Canllaw gall helpu unrhyw â hunan gymhelliant trwy osod nodau cyraeddadwy.
Erthygl ar Seicoleg Iechyd a COVID-19
Erthygl wedi’i hysgrifennu gan Dr. Ceri Phelps sy’n arwain y ddarpariaeth Seicoleg a Chwnsela y Drindod Dewi Sant, yn trafod beth ydyn ni wedi’i ddysgu ynglŷn â’r ffordd orau i ymdopi yn ystod cyfnodau ansicr.
Awgrymiadau i fyfyrwyr ar gynnal eu lles
Mae'r ffeithlun hwn yn cynnwys awgrymiadau a chyngor i bob myfyriwr ar sut i gynnal eu lles gan eu galluogi i wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd gan fywyd myfyrwyr i'w cynnig yn yr ysgol/coleg a'r brifysgol.
Sesiwn ryngweithiol ysgafn, a gynigir gan staff addysgu cwrs BA Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned Y Drindod Dewi Sant, a fydd yn dysgu myfyrwyr sut i adeiladu eu gwytnwch, rheoli eu lefelau straen, a chadw eu cymhelliant.
Dyddiad: ar gais
Yn addas ar gyfer: blwyddyn 11/12/13 neu fyfyrwyr cyfatebol
Hyd: 30/45 munud