Ydych chi'n meddwl mynd i'r Brifysgol neu eisoes wedi gwneud cais? Bydd yr adnoddau defnyddiol hyn yn eich helpu ar eich ffordd i wneud penderfyniad ynghylch beth i'w astudio a'ch paratoi ar gyfer bywyd myfyriwr.
Gyda dros 50,000 o gyrsiau israddedig prifysgol i ddewis ohonynt yn y DU, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth i chi geisio penderfynu pa gwrs sy'n iawn i chi. Dyma ein cyngor ar y pethau y dylech eu hystyried a ble y gallwch wneud eich gwaith ymchwil.
Efallai eich bod yn ystyried mynd i'r brifysgol ond am ddysgu mwy am y manteision cyn gwneud penderfyniad pendant. Efallai gall ein prif resymau am fynd i'r brifysgol eich helpu penderfynu.
Ar gyfer unrhyw un sy'n paratoi i ddechrau yn y brifysgol yn 2020, dyma ein hawgrymiadau ar arbed arian a sicrhau bod y benthyciad i fyfyrwyr yn mynd yn bell.
Amser i Ystyried- Taflen Waith Cwestiynau
Dyma daflen waith gall myfyrwyr ei chwblhau i’w helpu i fyfyrio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn y maent yn angerddol amdano. Gallai’r atebion eu helpu i ystyried beth a sut yr hoffent ei ddysgu yn y dyfodol.
Llyfr Ryseitiau yr Undeb Myfyrywr
Mae nawr yn amser da i rheini sy’n golygu dechrau yn y Brifysgol ym Mis Medi 2020, i weithio ar eu sgiliau yn y gegin! Dyma lyfr ryseitiau sydd wedi’i greu gan Undeb Myfyrwyr y Brifysgol gyda syniadau ac awgrymiadau ar rai prydau a byrbrydau syml ond blasus iawn.
Podlediadau Barod am Brifysgol
Cyfres o bodlediadau wedi eu cyflwyno gan fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant sy’n trafod materion megis sut i edrych ar ôl ein hunain yn ystod y cyfnod rhyfedd ac anodd hwn a sut i baratoi ar gyfer bywyd yn y Brifysgol.
Meddwl am Brifysgol ac yn ystyried y Drindod Dewi Sant? Dyma rai o'r prif resymau pam rydyn ni'n credu y dylech eu hystyried ymuno a theulu'r Brifysgol hon
Paratoi ar gyfer y Cam Academaidd Nesaf
Poster sy’n cynnig awgrymiadau i fyfyrwyr sydd yn meddwl am fynd i'r Brifysgol ar sut i gadw’n weithgar a paratoi ar gyfer y cam academaidd nesaf.