Amdanom Ni

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion a cholegau, yn lleol ac yn genedlaethol, fel rhan o’n hymrwymiad i’r gymuned.

Nod y tîm Recriwtio Myfyrwyr yw darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cywir sydd o ansawdd uchel ar gyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) AC Addysg Uwch.

Mae ein gwaith yn cynnwys cysylltu â darpar fyfyrwyr y DU, eu rhieni a’u gofalwyr, athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd er mwyn hyrwyddo mynediad at Addysg Uwch. Gyda’n swyddogion Ehangu Mynediad ac Ymgyrraedd yn Ehangach, rydym yn darparu rhaglen gynhwysol, llawn gwybodaeth sydd o fudd i fyfyrwyr, staff a theuluoedd.

Mae PCYDDS yn aelod gweithredol o Gymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA). Mae hyn yn sicrhau bod y wybodaeth a’r gwasanaeth a ddarparwn yn wybodus, yn ddiduedd ac o safon broffesiynol.