Nanna Ryder

UWTSD Home  -  Institutes and Academies  -  Institute of Education and Humanities  -  Institute of Education and Humanities Staff  -  Nanna Ryder

Mrs Nanna Ryder BA (Anrhydedd), MEd, TAR (Cynradd), TAAU, FHEA

Senior Lecturer

Tel: 01267 676795
E-mail: n.ryder@uwtsd.ac.uk



  • Arwain Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghanolfan Addysg Athrawon De-orllewin Cymru (BA Addysg gyda SAC a TAR Cynradd)
  • Swyddog Cyswllt Cefnogi Myfyrwyr

Penderfynodd Nanna ddychwelyd i astudio ar ôl magu teulu a gweithio mewn ysgolion meithrin a chynradd yng Ngheredigion fel cynowrthwy-ydd dysgu am nifer o flynyddoedd. Dilynodd radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a chwrs TAR (Cynradd) yng Ngholeg y Drindod ac yna bu’n athrawes gynradd am gyfnod mewn ysgol gynradd wledig yng Ngheredigion. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol yn y Drindod yn 2008.

O fewn ei rôl bu’n darlithio ar y cwrs Astudiaethau Addysg a’r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Cynhwysol i Gynorthwy-wyr Dosbarth. Mae’n parhau i ddarlithio ar y cwrs hwnnw ar y campws yng Nghaerfyrddin ac mewn lleoliadau ym Mhowys a Sir Benfro.

Yn 2010 derbyniodd gymrodoriaeth gan y Ganolfan Addysgu Addysg Uwch i ddatblygu’r ddarpariaeth Anghenion Addysg Arbennig cyfrwng Cymraeg o fewn y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant. Yn ei rôl bresennol mae’n ffocysu ar y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn y cyrsiau addysg yng Nghanolfan Addysg Athrawon De-orllewin Cymru. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn dyslecsia ac anawsterau llythrennedd yn ogystal ag ym maes Anhwylder Sbectrwm Awtistig .

Mae’n darlithio’n bennaf ar y cwrs BA (Addysg) gyda SAC ond yn cyfrannu’n achlysurol tuag at y cwrs TAR Cynradd hefyd. Yn ogystal â chyfrannu tuag at y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn y cwrs, mae hefyd yn darlithio ar y modylau astudiaethau proffesiynol, y Cyfnod Sylfaen a mathemateg a rhifedd.

  • Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch (FHEA)
  • Aelod o Gyngor Addysgu Cenedlaethol Cymru (GTCW)
  • Ymddiriedolwr Dyslecsia Cymru
  • Gweithio tuag at AMBDA (Associate Membership British Dyslexia Association)

Cydlynydd modwl a darlithio:

  • ITDL6002/C – datblygu iaith yn y dosbarth cynradd gan gynnwys edrych ar rôl diwylliant a chefndir yn y broses o gaffael iaith
  • ITID5001/C – amrywiaeth a chydraddoldeb a hawliau’r plentyn gan gynnwys deddfwriaeth a meysydd penodol o Anghenion Ychwanegol e.e. mwy abl a thalentog, tlodi, dyslecsia, dyscalciwlia ac yn y blaen
  • SJSI6023/C – goresgyn anawsterau llythrennedd gan gynnwys effaith cefndir cymdeithasol, diwylliannol a dylanwadau eraill ar ddatblygiad iaith
  • SJTA4014/C – cyflwyniad i ddyslecsia ac anawsterau dysgu penodol

Darlithio ar fodwlau:

  • TAR Modwl 1 – pedagogeg yn y dosbarth cynradd
  • TAR Modwl 4 – rhwystrau rhag dysgu yn y dosbarth cynradd
  • ITPP6001C – trosglwyddo a materion yn ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • ITPP5001/C – datblygu ymarfer adlewyrchol wrth ddysgu ac addysgu
  • ITLM6002C - mathemateg a rhifedd
  • ITLM5001/C – mathemateg a rhifedd
  • ITLM4001/C - mathemateg a rhifedd
  • ITPP4001/C – trosolwg o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol gynradd
  • ITSP4002/C – lleoedd a mannau i ddysgu (Cyfnod Sylfaen)

Tiwtor:

  • ITPT6001/C – goruchwylio hyfforddeion ar Brofiad Addysgu Proffesiynol
  • ITPT5001/C - goruchwylio hyfforddeion ar Brofiad Addysgu Proffesiynol
  • ITPT4001/C - goruchwylio hyfforddeion ar Brofiad Addysgu Proffesiynol
  • TAR - goruchwylio hyfforddeion ar Brofiad Addysgu Proffesiynol

Mae diddordebau ymchwil Nanna yn cynnwys anawsterau iaith penodol a dyslecsia. Ar gyfer ei gradd Meistr, bu’n ymchwilio i anawsterau iaith myfyrwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg a’r gefnogaeth ar eu cyfer. Yn ddiweddar bu’n cynnal ymchwil gweithredol mewn ysgol gynradd yng ngogledd Sir Gaerfyrddin ar gefnogi bechgyn ag anawsterau iaith penodol wrth weithio tuag at gymhwyster AMBDA (Associate Membership British Dyslexia Association). Mae rôl y cynorthwy-ydd dosbarth wrth gefnogi datblygiad llythrennedd a rhifedd hefyd o ddiddordeb iddi.

Mae ei harbenigedd ym maes addysg, ac yn benodol addysg plant 3-11 oed. Mae’n arbenigo ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac yn edrych ar ddulliau cynhwysol o gynnwys plant o bob iaith, cenfdir a gallu yn llwyddiannus o fewn y system addysg briff ffrwd. Mae meysydd Anhwylder Sbectrwm Awtistig a Dyslecsia o ddiddordeb penodol iddi.

  1. Briffiwr, aseswr a chymedrolydd y cymhwyster Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU/HLTA) i’r consortiwm ERW
  2. Cymedrolydd allanol y cymhwyster Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU/HLTA) ar ran ERW i Lywodraeth Cymru.
  3. Arwain prosiect Mêts Maesllan i Ganolfan Peniarth
  4. Awduro profion SCYA (NfER)

Ryder, N. (2011) Cynnwys Pawb yn y Cyfnod Sylfaen. yn S.W. Siencyn, Y Cyfnod Sylfaen: Athroniaeth, Ymchwil ac Ymarfer. Caerfyrddin: Cyhoeddiadau Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Ryder, N. (2013) Yr ABC i Anghenion Ychwanegol. Caerfyrddin: Canolfan Peniarth.

Ryder, N. (i’w gyhoeddi 2014) The ABC to Additional Needs. Carmarthen: Canolfan Peniarth.

Llyfrau/Adnoddau i blant oed Cynradd

Clement, B., Thomas, M., & Ryder, N. (2014) Cyfres Mêts Maesllan (32 o lyfrau darllen a phecyn adnoddau). Caerfyrddin: Canolfan Peniarth.

Ryder, N. & Richards, C. (2010) Cyfres o 12 Chwedl: Peregrin a’r Fôr Forwyn, Dewi Sant, Dewi ar Daith, Morwyn Llyn y Fan, Cyfrinach y Brenin, Blodeuwedd, Priodas Nant Gwrtheyrn, Cantre’r Gwaelod, Santes Melangell, Moch Pryderi, Pwyll a Rhiannon, Branwen. Llandysul: Gomer.